Mae Cadw yn dathlu ei ben-blwydd yn 40 oed

0
240
Harlech Castle Photographer - Peter Morgan

Mae dros 1,700 o bobl wedi ymweld â thirnodau trawiadol Cymru ar y trên hyd yma eleni diolch i bartneriaeth rhwng Trafnidiaeth Cymru a Cadw.

Mae’r bartneriaeth yn cynnig 2 docyn mynediad am bris 1 i unrhyw un o dirnodau mwyaf adnabyddus Cadw pan fyddwch yn teithio yno ar y trên. Mae Harlech, Cricieth a Chaerffili wedi dod i’r amlwg fel y safleoedd hanesyddol mwyaf poblogaidd i deithwyr rheilffordd sy’n manteisio ar y cynnig.

I ddathlu’r pen-blwydd, gall cwsmeriaid barhau i dderbyn 2 docyn mynediad am bris 1 i safleoedd Cadw pan fyddant yn dal y trên yno.

Dywedodd Victoria Leyshon, Rheolwr Marchnata Partneriaeth Trafnidiaeth Cymru:

“Rydym wrth ein bodd o weld cymaint o bobl yn manteisio ar ein cynnig partneriaeth gyda Cadw.

“Mae teithio ar y trên yn ffordd wych o archwilio Cymru, ac mae nifer y bobl sydd eisoes wedi manteisio ar y cynnig hwn 20% yn uwch na’r llynedd, sy’n dangos poblogrwydd cynyddol y fenter.

“Hoffem ddymuno pen-blwydd hapus i Cadw yn 40 oed!”

Dywedodd Gwydion Griffiths, Pennaeth Marchnata a Datblygu Busnes Cadw:

“Mae’r cynnig rheilffordd 2-am-1 wedi ei gwneud hi’n haws nag erioed i bobl ymweld â’n safleoedd hanesyddol a darganfod treftadaeth gyfoethog Cymru.

“Mae’r cynnydd yn y niferoedd sydd wedi manteisio ar y cynnig yn dyst i boblogrwydd y bartneriaeth hon ac yn ein helpu i ddiogelu a dathlu treftadaeth Cymru, er mwyn i ni i gyd ei chadw.”

I wneud y gorau o’r cynnig 2 docyn am bris 1 gwych hwn ac i ddathlu 40fed pen-blwydd Cadw, y cyfan sydd angen i chi ei wneud yw cyflwyno tocyn trên dilys ar gyfer yr un diwrnod â’ch ymweliad. Gallwch chi a chydymaith teithio gael dau docyn mynediad am bris un.

Am ragor o wybodaeth, ewch i:  https://trc.cymru/ffyrdd-o-deithio/rheilffordd/arbedion-a-chynigion/cadw


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle