Codwr arian yn cerdded 100 milltir ac yn codi dros £1,000 ar gyfer uned cemotherap

0
168
Pictured above: Meleri with staff from the unit

Cerddodd y codwr arian Meleri Llwyd O’Leary 100 milltir ym mis Gorffennaf a chododd swm gwych o £1,058 ar gyfer Uned Ddydd Cemotherapi Ysbyty Glangwili. 

Ymgymerodd Meleri â’r her fawr er cof am ei ffrind annwyl, Siân Axford, a fu farw yn anffodus oherwydd canser y fron dair blynedd yn ôl. 

Meddai Meleri: “Diolch yn fawr iawn i bawb sydd wedi fy nghefnogi. Glaw neu hindda, roeddwn i wrth fy modd gyda phob munud o’r 100 milltir. 

“Mae’r gofal a’r gefnogaeth a roddir gan staff yr Uned Ddydd Cemotherapi yn Ysbyty Glangwili yn wirioneddol anhygoel. Mae wedi bod yn fraint codi arian at achos mor dda a’r cyfan er cof am ein ffrind arbennig, Siân Axford.”

Dywedodd Nicola Llewellyn, Pennaeth Elusennau Iechyd Hywel Dda: “Hoffem ddweud diolch yn fawr Meleri am ymgymryd â’r her anhygoel hon er cof am Siân. 

“Mae cefnogaeth ein cymunedau lleol yn ein galluogi i ddarparu gwasanaethau y tu hwnt i’r hyn y gall y GIG ei ddarparu yn nhair sir Hywel Dda ac rydym yn hynod ddiolchgar am bob rhodd a dderbyniwn.” 

I gael rhagor o fanylion am elusen y GIG a sut y gallwch chi helpu i gefnogi cleifion a staff lleol y GIG, ewch i www.hywelddahealthcharities.org.uk


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle