Dyn o Sir Benfro wedi defnyddio sgiliau cymorth cyntaf newydd dyddiau yn unig ar ôl iddo gwblhau cwrs hyfforddi St John Ambulance Cymru

0
237
Capsiwn: Defnyddiodd Kieran Warlow, 31 oed, y sgiliau cymorth cyntaf a oedd newydd eu dysgu ychydig ddyddiau ar ôl iddo gwblhau cwrs hyfforddi St John Ambulance Cymru.

“Roedd yn braf gallu teimlo fy mod i’n gallu helpu yn hytrach na dim ond sefyll o’r neilltu a bod yn wyliwr.” – Dyn o Sir Benfro wedi defnyddio sgiliau cymorth cyntaf newydd dyddiau yn unig ar ôl iddo gwblhau cwrs hyfforddi St John Ambulance Cymru

Mae dyn yn amlygu pwysigrwydd dysgu sgiliau cymorth cyntaf rhag ofn bod eu hangen gerllaw, ar ôl iddo helpu pan ddigwyddodd damwain ger ei swyddfa, ychydig ddyddiau ar ôl iddo gwblhau cwrs hyfforddi St John Ambulance Cymru.

Roedd Kieran Warlow, 31 oed, wrth ei waith yn Aberdaugleddau pan glywodd daran ddofn y tu allan i’w swyddfa. Sylweddolodd yn gyflym fod dau gerbyd wedi bod mewn damwain ar y ffordd y tu allan i Ddepo Sunbelt Rentals lle mae’n gweithio.

Fel mae’n digwydd, roedd wedi cwblhau cwrs tridiau Cymorth Cyntaf yn y Gweithle yng Nghanolfan Hyfforddi St John Ambulance Cymru yn Abertawe’r wythnos gynt, ac fe wnaeth rhoi ei sgiliau newydd ar waith unwaith iddo gyrraedd lleoliad y damwain.

Ar ôl sicrhau bod pobl oedd wedi’u hyfforddi mewn cymorth cyntaf yn cefnogi un o’r gyrwyr, trodd Kieran ei sylw at y gyrrwr arall, ac yn dilyn yr hyfforddiant a gafodd, cynhaliodd arolwg cychwynnol​ arno yn gyflym.

Dywedodd Kieran: “Fe wnes i sylwi ei fod wedi dechrau mynd i sioc o ganlyniad i’r gwrthdrawiad ac roedd yn mynd yn ddryslyd, felly gofynnais iddo eistedd i lawr a chymerais rai nodiadau i lawr, fel o’n i wedi cael fy hyfforddi i wneud.

Gan fod y dyn yn crynu, fe wnaeth Kieran helpu i ddod o hyd i flanced a chofnodi gwybodaeth am yr hyn oedd wedi digwydd a manylion am y gyrrwr, gan gynnwys faint o barasetamol a chaffein oedd yn y tabledi a gafodd. Yna trosglwyddodd y nodiadau i’r gwasanaethau brys ar ôl iddynt gyrraedd.

Ychwanegodd: “Gofynnodd y parafeddyg i mi ble roeddwn i wedi dysgu cymryd nodiadau trosglwyddo fel hyn, a dywedais wrtho yr oeddwn i wedi’i gwblhau cwrs Cymorth Cyntaf yn y Gweithle’r wythnos gynt.”

Roedd Kieran yn llawn canmoliaeth i’r Hyfforddwr St John Ambulance Cymru a oedd wedi cyflwyno’r cwrs:

“Roedd Jon yn anhygoel. Roedd ei gyflwyniad mor drwyadl ac atyniadol. Mwynheais y profiad o gwblhau’r cwrs yn fawr a dysgais lawer. Roedd yn braf fod gyda grŵp o bobl a oedd i gyd wedi ymgysylltu â’r cwrs, ac fe’i cyflwynwyd yn dda iawn.

“”Roeddwn i’n mynd i adael adolygiad cadarnhaol beth bynnag ond roeddwn i eisiau rhoi gwybod i bobl beth oedd wedi digwydd rhag ofn y gallai o bosibl annog eraill i gwblhau’r cwrs fel y gallent helpu yn y dyfodol.

“Roedd yn braf iawn teimlo efallai fy mod i wedi cael effaith gadarnhaol.”

Os hoffech ddysgu sgiliau newydd neu ailgymhwyso, gallwch weld yr ystod o gyrsiau Hyfforddiant yn y Gweithle y mae St John Ambulance Cymru yn eu cynnig drwy ymweld â www.sjacymru.org.uk/training.


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle