Côr Seingar yn codi £2,200 ar gyfer Uned Ddydd Cemotherapi Ysbyty Glangwili er cof am aelod o’r côr, Sian Axford.
Côr cymysg wedi ei leoli yng Nghaerfyrddin yw Côr Seingar. Sefydlwyd y côr yn 2004 ac yn ddiweddar trefnodd gyngerdd elusennol i ddathlu eu pen-blwydd yn 20 oed.
Cododd y côr arian i’r Uned Ddydd Cemotherapi gan fod aelod o’r côr, Siân Axford, yn drist iawn wedi colli ei brwydr gyda chanser y fron yn 2021.
Dywedodd Nicki Roderick, Cyfarwyddwr Cerdd Côr Seingar: “Cynhaliwyd ein cyngerdd yn Neuadd San Pedr yng Nghaerfyrddin ar 20fed Ebrill 2024. Artistiaid gwadd oedd y tenor a’r canwr opera Robyn Lyn Evans, y Pibydd Gwyddelig Christy McCarthy a disgyblion Ysgol y Dderwen.
“Hefyd lansiodd y côr gryno ddisg newydd, ‘Eilia2’, yn cynnwys 12 o draciau poblogaidd ac adnabyddus a recordiwyd yn Sonic One Studio yn Llangennech.
“Trefnwyd y cyngerdd er cof am aelod o’r côr, Siân Axford, a gollodd ei brwydr gyda chanser y fron. Roedd Siân yn aelod brwdfrydig a phoblogaidd o adran soprano y côr ac mae colled fawr ar ei hôl.
“Roedd y cyngerdd yn llwyddiant ysgubol a gwerthwyd pob tocyn. Mwynhaodd aelodau’r côr yr her o gydweithio i drefnu a sicrhau rhediad esmwyth y noson. Hoffem ddiolch i’r artistiaid dawnus a gefnogodd y côr yn y cyngerdd, haelioni busnesau lleol am eu nawdd caredig a’u rhoddion, y cyngor tref am ddefnydd o’r neuadd, y gwirfoddolwyr a gefnogodd y noson, a’r gynulleidfa werthfawrogol, llawer ohonynt yn gefnogwyr brwd i Seingar.”
Dywedodd Nicola Llewelyn, Pennaeth Elusennau Iechyd Hywel Dda: “Diolch i Gôr Seingar am godi swm mor anhygoel i’r Uned Ddydd Cemotherapi yng Nglangwili, mae’n deyrnged fendigedig i Siân.
“Mae cefnogaeth ein cymunedau lleol yn ein galluogi i ddarparu gwasanaethau y tu hwnt i’r hyn y gall y GIG ei ddarparu yn nhair sir Hywel Dda ac rydym yn hynod ddiolchgar am bob rhodd a dderbyniwn.”
I gael rhagor o fanylion am elusen y GIG a sut y gallwch chi helpu i gefnogi cleifion a staff lleol y GIG, ewch i:www.hywelddahealthcharities.org.uk
Help keep news FREE for our readers
Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle