MAE cyrsiau cerbydau hybrid a thrydan wedi gweld cynnydd mewn dysgwyr newydd.

0
191
EV

Mae’r rhaglenni ymhlith ystod eang o gymwysterau Peirianneg a Cherbydau Modur i brofi cynnydd o ran niferoedd yng Ngholeg Cambria Glannau Dyfrdwy’r flwyddyn academaidd hon.

Yn ôl Carl Black, Pennaeth Cynorthwyol – Sefydliad Technoleg ac Arweinydd Safle Glannau Dyfrdwy, mae sawl carfan – gan gynnwys Diploma Lefel 2 mewn Peirianneg – bron â dyblu.

“Rydyn ni wedi gweld cynnydd cyffredinol, mewn Peirianneg yn enwedig ond hefyd ym maes Cerbydau Modur, mewn addysg bellach ac o ran prentisiaethau,” meddai Carl.

“Mae llawer o alw yn y sectorau hyn, yn enwedig mewn gwasanaethau atgyweirio a gweithgynhyrchu, ac rydyn ni mewn lle da i helpu i ateb y galw hwnnw gyda’r profiad a’r cyfleusterau sydd gennym ni yma yn y coleg.”

Mae cymwysterau 2 a 3 mewn Atgyweirio Cerbydau Hybrid/Trydan wedi bod yn arbennig o lwyddiannus, gyda channoedd o ddysgwyr yn ymuno â Cambria dros y tair blynedd diwethaf, yn ogystal â Dyfarniad Lefel 4 mewn Diagnosis a Chywiro Diffygion mewn Cerbydau Trydan a Hybrid, cymhwyster mwy cynhwysfawr a lansiwyd 12 mis yn ôl. 

Dangosodd data ardystio diweddaraf Sefydliad y Diwydiant Moduron (IMI) fod 58,800 o dechnegwyr yn gymwys erbyn hyn i weithio ar gerbydau trydan (EVs), sef 24% o weithlu cerbydau modur y DU.

Yn seiliedig ar y cynnydd rhagweledig mewn EVs ar ffyrdd y DU, mae’r IMI ar hyn o bryd yn rhagweld diffyg o 3,000 o dechnegwyr erbyn 2031, ac 16,000 erbyn 2035.

Yn ôl y darlithydd Charles Jones, bydd nifer y dysgwyr yn cynyddu’n gyson i helpu i fynd i’r afael â’r mater hwn, ac mae mwy o dechnegwyr yn dychwelyd i’r sector ar ôl newid gyrfa yn ystod pandemig Covid-19.

Charles Jones EV

“Mae llawer o garejys yn dibynnu ar brentisiaid ac yn gosod gweithwyr llawn amser gyda ni i ddatblygu’r sgiliau yma,” meddai.

“Rydyn ni’n ceisio cael cymaint o bobl â phosib i leoliadau ar draws y rhanbarth, sy’n rhoi profiad bywyd go iawn iddyn nhw mewn amgylchedd gwaith, ac yn golygu y byddan nhw’n ‘barod am swydd’ wrth adael y coleg a dechrau gweithio yn y maes – gyda’r holl offer sydd eu hangen arnyn nhw.

“Rydyn ni hefyd yn annog mwy o ferched i ymuno â’r sector ac yn gweld cynnydd mewn dysgwyr benywaidd mewn peirianneg a cherbydau modur, sy’n galonogol ac yn gam i’r cyfeiriad iawn.”

Ychwanegodd Carl: “Mae’r cyfleusterau a’r dechnoleg yma o’r radd flaenaf ac yn cyrraedd y safonau diwydiant mwya’ modern, sy’n USP mawr i ni.

“Rydyn ni’n meithrin partneriaethau newydd drwy’r amser ac yn ceisio mynd gam ymhellach  fel y gallwn ni barhau i helpu i hyfforddi a pharatoi’r genhedlaeth nesaf o beirianwyr a gweithwyr cerbydau modur medrus a chau’r bwlch sgiliau hwnnw, yng ngogledd ddwyrain Cymru a thu hwnt.”

Am ragor o newyddion a gwybodaeth am yr ystod eang o gyrsiau a chymwysterau sydd ar gael yng Ngholeg Cambria, ewch i’r wefan: www.cambria.ac.uk.


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle