Band eang ffeibr cyflawn i Glan-y-fferi

0
326

Annog trigolion sir Gâr i fachu ar y cyfle i gael band eang ffeibr cyflawn

Mae Openreach a Chyngor Sir Gâr yn cymell pobl i gefnogi cynigion i ddarparu band eang ffeibr cyflawn tra-chyflym ar gyfer dros 6000 cartref a busnes ar draws y sir.

Gwnaed yr alwad yn ystod ymweliad diweddar â Glan-y-fferi pan welodd cynghorwyr a swyddogion Cyngor Sir Gâr sut mae trigolion y pentref gwledig yn awr yn elwa o’r gwasanaeth band eang mwyaf cyflym a dibynadwy yn y Deyrnas Unedig.

Yn ystod yr ymweliad roedd y cynghorydd Linda Evans; dirprwy arweinydd Cyngor Sir Gâr, cynghorydd Crish Davies a’r cynghorydd Lewis Davies, yn cynrychioli Cydweli a Llanisan-yn Rhos (St Ishmael) wedi galw heibio cyfnewidfa Caerfyrddin a phrofi’r grefft o sbleisio ffeibr – wrth ffiwsio dau gebl ffeibr optig tenau â’i gilydd. Mae’r gwaith peirianneg cywrain yma’n elfen hanfodol o rwydwaith ffeibr cyflawn Openreach sydd eisoes wedi cysylltu dros 16m cartref a busnes ar draws y DU.

Yna, aethant ymlaen i bentref Glan-y-fferi i weld sut mae Openreach wedi cydweithio â’r gymuned i gymell trigolion i ymuno â’i raglen Partneriaeth Ffeibr Cymunedol (FCP) – sy’n cronni Talebau Gigabeit Llywodraeth y DU er mwyn helpu i ariannu’r gwaith adeiladu.[1] . Mae’r cynllun yn cyfrannu at gostau adeiladu rhwydweithiau band eang gigabeit mewn ardaloedd ble mae hynny’n anodd yn nhermau cyllid.

Ar draws sir Gâr mae 9 Partneriaeth Ffeibr Cymunedol a allai gefnogi bron 6000 cartref a busnes os bydd modd denu’r talebau digonol, sef: Pentywyn, Glan-y-fferi, Llanpumsaint, Bancyfelin, Llansteffan, Pont-iets, Maesycrugiau, Felindre a Pencader.

Dywedodd y cynghorydd Linda Evans, dirprwy arweinydd Cyngor Sir Gâr: “Mae’n anhygoel gweld gwaith peirianwyr Openreach i ledu band eang ffeibr cyflawn ar draws y sir.”

“Bydd y rhwydwaith newydd yn galluogi trigolion i fwynhau cysylltiadau cyflym â gwasanaethau iechyd, addysg a chyfleoedd gwaith, sy’n hanfodol yn y byd modern.

“Mae’r buddion yn enfawr ac rwy’n annog cymunedau – yn cynnwys Pencader yn fy etholaeth – i fachu ar y cyfle ffantastig hwn ac addo eu talebau di-dâl er mwyn ein helpu i gael cysylltedd cyflym.”

Wrth drafod y buddion i’w hetholwyr, dywedodd y Cynghorydd Crish Davies:

“Gallai band eang ffeibr cyflawn drawsnewid ardal Cydweli, gan ddarparu rhwydwaith i gynnal technolegau clyfar er gwella bywyd beunyddiol a chefnogi gwaith busnesau a chynghorau lleol. Wrth gael band eang tra-chyflym gallai Cydweli gysylltu dyfeisiadau a synwyryddion clyfar ym meysydd trafnidiaeth, diogelwch a monitro amgylcheddol.

“Gallai’r rhwydwaith newydd gefnogi gwasanaethau cymunedol fel cabanau digidol rhyngweithiol yn hysbysu adnoddau twristiaeth a phwyntiau Wi-Fi cyhoeddus, gan groesawu ymwelwyr a chefnogi’r sector twristiaeth.

“Byddai ffeibr cyflawn yn darparu lled band digonol er cefnogi arloesi, gan gefnogi adnoddau fel systemau talu digidol a phrofiadau realiti rhithwir er fforio safleoedd hanesyddol yr ardal. At ei gilydd, gallai band eang ffeibr cyflawn helpu i wireddu potensial Cydweli fel tref ddigidol, gan feithrin cymuned gysylltiol a hybu tyfiant cynaladwy.”

Mae trigolion yn gallu gwirio eu cymhwyster ac addo talebau ar wefan Connect My Community. Bydd defnyddio’r talebau – a ddarperir yn gwbl ddi-dâl – yn galluogi Openreach i gydweithio â’r gymuned leol i adeiladu rhwydwaith pwrpasol ar y cyd.

Unwaith bydd digon o bobl yn addo a dilysu eu talebau, bydd peirianwyr Openreach yn dechrau’r gwaith adeiladu. Gallai hynny gymryd hyd at 12-18 mis, gyda rhai cartrefi’n derbyn eu gwasanaeth cyn eraill.

Dywedodd Michelle Maidement, rheolwraig cysylltiadau gwledig gorllewin Cymru Openreach: “Mae’n gyfle cyffrous iawn i sir Gâr ac roeddem yn falch o ddangos i’r cynghorwyr ein gwaith i drawsnewid y rhwydwaith.”

“Mae ein rhaglen Partneriaeth Ffeibr Cymunedol wedi creu’r potensial i gynnwys cannoedd o gymunedau ychwanegol ar draws y Deyrnas Unedig yn ein cynlluniau ffeibr cyflawn. Ond mae lledu ein rhwydwaith i’r lleoliadau anodd eu cyrraedd hyn yn dal yn heriol – sy’n golygu bydd rhaid i bawb gydweithio  – sef chi, eich cymdogion ac Openreach.

“Bydd pawb sy’n addo taleb yn gwneud eu rhan i helpu eu cymuned – a gweddill sir Gâr – i gael cysylltedd yn cymharu â’r gorau yn y Deyrnas Unedig.”

Ar hyn o bryd, rydym yn buddsoddi £15 biliwn wrth adeiladu rhwydwaith ffeibr cyflawn i wasanaethu 25 miliwn cartref – gyda 6 miliwn ohonynt ymhlith y traean mwyaf anodd eu cyrraedd yn y DU – ond ni fyddwn yn gallu gwneud hynny ar ben ein hunain. Mae’r cymorth diweddaraf yma gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig yn elfen hanfodol o’r broses.”

Yng Nghymru, gallai bron 60 cymuned yn cynnwys oddeutu 33,000 cartref mewn rhai o’r ardaloedd mwyaf gwledig fachu ar y cyfle i gael band eang tra-chyflym drwy’r cynllun.

Os bydd digon o bobl yn arwyddo, bydd cartrefi a busnesau mewn cymunedau anodd eu cyrraedd yn ymuno â dros 970,000 ar draws y wlad sydd eisoes yn gallu cael band eang ffeibr cyflawn.

Fel rhan o amodau’r cynllun, gofynnir i’r trigolion archebu gwasanaeth ffeibr cyflawn gan gwmni o’u dewis am o leiaf 12 mis unwaith bydd y rhwydwaith newydd ar gael, a chadarnhau eu cysylltiad.


[1] y penderfyniad i adeiladu, y cartrefi i’w cysylltu a’r amserlen yn destun arolwg technegol a derbyn nifer digonol o dalebau dilys

Manylion pellach am uwchraddio i fand eang ffeibr cyflawn ar wefan Openreach.


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle