Mae Castell Caeriw yn falch o wahodd teuluoedd ac ymwelwyr o bob oed i brofi Goleuo – digwyddiad hudolus sy’n goleuo’r Castell yn Nadoligaidd, ac ar agor bob nos Wener, nos Sadwrn a nos Sul rhwng 29 Tachwedd a 15 Rhagfyr o 4:30pm nes 7:30pm.
Wrth gyrraedd y Castell bydd ymwelwyr yn wynebu arddangosfa o oleuadau prydferth ar hyd yr Ardd Furiog, sy’n creu awyrgylch hudolus ac yn eu harwain at ganol yr ŵyl Nadoligaidd. Bydd cyfle i ymwelwyr fwynhau danteithion tymhorol yn Ystafell De Nest, sy’n ychwanegu blas a chynhesrwydd at y profiad.
Mae arddangosfeydd i’w gweld mewn ardaloedd newydd eleni, ac maent yn troi’r Castell yn ŵyl Nadoligaidd. Mae rhai elfennau newydd sbon wedi eu creu yn arbennig ar gyfer tymor 2024. Mae croeso mawr i blant ymuno â Llwybr Gweithdy Siôn Corn, sef antur ryngweithiol lle caiff y plant gyfle i chwilio am gliwiau sydd wedi eu cuddio o amgylch y Castell. Bydd pob plentyn yn cael anrheg ar ôl cwblhau’r llwybr. Mae cymryd rhan yn y llwybr yn costio £2 i bob plentyn.
Gan ein bod ni wedi ymroi i gynaliadwyedd, dim ond y goleuadau LED mwyaf ynni-effeithlon rydym ni’n eu defnyddio yn arddangosfa drawiadol Goleuo. Mae’r goleuadau hyn wedi eu dylunio i leihau’r effaith amgylcheddol, wrth ddarparu’r effaith weledol orau posibl i ymwelwyr. Mae’r system oleuo yn defnyddio oddeutu 85% yn llai o egni na bylbiau traddodiadol, ac maent yn gallu gweithredu o un soced cyffredin.
Bydd yr ymwelwyr yn sylwi bod yr holl oleuadau’n wynebu ochr ac adain ddwyreiniol y Castell, ac yn goleuo ystafelloedd tlws sydd wedi eu cadw fel yr oeddent yn arfer bod. Mae’r ystafelloedd hyn yn cynnwys y Neuadd Fach, y gladdgell, y capel a’r gegin; maen nhw i gyd wedi eu haddurno yn Nadoligaidd ac ar agor i’r cyhoedd. Er mwyn diogelu’r ystlumod sy’n aelodau gwerthfawr o gymuned Caeriw ac sy’n byw mewn ardaloedd penodol yn y Castell, rydym ni’n cyfyngu ar y goleuadau mewn rhai llefydd, a bydd rhai llefydd ar gau gyda’r nos.
Bydd corau lleol a grwpiau cerddorol yn ychwanegu at ysbryd y Nadolig a hud y profiad drwy lenwi’r Neuadd Fach â chaneuon Nadolig bob penwythnos.
Er mwyn sicrhau lle, mae’n rhaid i ymwelwyr archebu ymlaen llaw, gan fod cymaint o alw am docynnau. Mae tocynnau ar gael ar lein, ac yn costio £2.50 i oedolion, a £1.50 i blant rhwng 4 a 16 oed. Mae’r ffi fechan hon yn ein helpu ni i gynnal a gwella Goleuo bob blwyddyn, yn ogystal â sicrhau bod y digwyddiad yn parhau i fod yn un sy’n fforddiadwy i’r gymuned.
Cynigir mynediad am ddim i bobl sydd â thocyn blwyddyn, preswylwyr plwyf Caeriw, defnyddwyr cadair olwyn, ac i ofalwyr, ond mae’n rhaid i’r ymwelwyr hyn archebu eu lle o flaen llaw a dangos eu bod nhw’n gymwys i gael mynediad am ddim.
Mae croeso i ymwelwyr sydd wedi prynu tocyn dydd i’r Castell a’r Groto fynychu Goleuo ar yr un diwrnod, heb orfod archebu tocyn ychwanegol.
I gael amserlen lawn o’r perfformiadau byw, ac i gael gwybod beth yw oriau agor y Castell ac Ystafell De Nest yn ystod mis Tachwedd a Rhagfyr, ewch i’r wefan: www.carewcastle.com
Help keep news FREE for our readers
Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle