BYDD y flwyddyn newydd yn dod â chyfleoedd newydd i astudio yng Ngholeg Cambria.

0
220
Flower Arranging

Mae’r coleg – sydd wedi’i leoli yn Wrecsam, Llaneurgain, Glannau Dyfrdwy a Llysfasi – wedi cyflwyno cyfres o gyrsiau rhan-amser hyblyg a hygyrch a fydd yn dechrau ym mis Ionawr.

Ymhlith y pynciau mae Trefnu Blodau – I’r Gwanwyn; Sbaeneg Sgwrsio i Ddechreuwyr; Cyflwyniad i Iaith Arwyddion Prydain (BSL); Cyflwyniad Seiberddiogelwch a Hanfodion Seiberddiogelwch Cisco, a Chyflwyniad i Brosesau Ffotograffiaeth Amgen.

Cyflwyniad i DIY Cynnal a Chadw Eiddo; mae VTCT Estyniadau Gwallt Creadigol, a Lefelau ILM 2-5 mewn Arwain a Rheoli yn gymwysterau eraill sydd wedi’u cynllunio i wella sgiliau proffesiynol a datblygu gyrfa.

Ymhlith y sefydliadau achrededig sy’n gweithio mewn partneriaeth â’r coleg mae IOSH, Llywodraeth Cymru, City and Guilds, Lantra, CIPD, Prince2, a Learn Welsh.

Cambria STUDENT

Roedd y Pennaeth Sue Price yn annog pobl sydd mewn gwaith neu’n chwilio am gyfle newydd i gysylltu i ddarganfod rhagor.

“Mae’r ystod eang o gyrsiau rhan-amser sydd gennym ni ar gael yn dangos ein cysylltiadau agos â diwydiant,” meddai.

“Fel coleg rydym ni’n gwrando ar ein partneriaid yn y sectorau preifat a chyhoeddus ac yn creu rhaglenni academaidd sy’n adlewyrchu’r galw ac ymarferoldeb, i sicrhau bod pobl yn gallu symud ymlaen yn eu cyflogaeth bresennol neu ddefnyddio’r cymwysterau hyn i ddilyn cyfleoedd gyrfa newydd.”

Ychwanegodd Mrs Price: “Rydym ni hefyd yn darparu addysg i oedolion ac yn y gymuned yn ogystal â chyrsiau Sgiliau i Oedolion mewn ystod o bynciau ar draws ein safleoedd ac yn y gymuned, ac mae cymorth ariannol ar gael trwy Gyfrif Dysgu Personol.

“Beth bynnag rydych chi’n chwilio amdano, byddwn ni’n gallu helpu – Coleg Cambria yw’r lle iawn i chi gymryd y cam nesaf hwnnw.”

Prince 2 LEARNER

Gallwch ddarganfod rhagor mewn cyfres o ddigwyddiadau agored arfaethedig, gan gynnwys sesiynau hygyrch i bobl sydd eisiau astudio mewn amgylchedd sy’n gefnogol i’r synhwyrau.

Bydd cyfle hefyd i gwrdd â staff ac archwilio cyfleoedd gyda Chanolfan Brifysgol Cambria, gan astudio’n ddwyieithog, a phrentisiaethau.

Am ragor o wybodaeth am gyrsiau rhan-amser yng Ngholeg Cambria, anfonwch e-bost at enquiries@cambria.ac.uk neu ffoniwch 0300 30 30 007.

Fel arall, gallwch chi fynd i’r wefan yma: Oedolion a Rhan-amser < Coleg Cambria.

Mae’r rhaglen Cyfrif Dysgu Personol yn ceisio darparu cymorth am ddim i chi ennill sgiliau lefel uwch, i gael mynediad at ystod ehangach o gyfleoedd gwaith os ydych chi dros 19 oed ac yn byw yng Nghymru, mewn cyflogaeth (gan gynnwys bod mewn perygl o gael eich diswyddo a charcharorion ar ddiwrnod astudio) ac yn ennill llai na’r incwm canolrifol o £32,371 y flwyddyn. Rhagor o wybodaeth ymaCyfrif Dysgu Personol < Coleg Cambria.


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle