Codwr arian yn cymryd rhan mewn ultramarathon 62.5 milltir ar gyfer elusen GIG leol

0
63

Ymgymerodd Julian Lewis â’r sialens enfawr o ultramarathon di-stop 62.5 milltir o hyd a chododd £3,595 ar gyfer Uned Gofal y Fron yn Ysbyty Tywysog Philip.

Ar 15 Mehefin 2024, cymerodd Julian ran yn Ultramarathon Race to the King.

 

Dywedodd Julian: “Rwy’n byw gyda fy nheulu yn Rhydargaeau sy’n bentref bach bedair milltir i’r gogledd o Gaerfyrddin ac rwy’n gweithio i Gyngor Sir Caerfyrddin yn yr Adran Cymunedau, fel Rheolwr Contractau a Chomisiynu Eiddo Tai. Mae gen i dri o blant 19, 17 a 13 oed. Rwy’n aelod o glwb rhedeg TROTS yn Sanclêr.

 

“Penderfynais godi arian gan fod fy modryb a’m cydweithwyr agos wedi derbyn triniaeth anhygoel gan yr Uned Gofal y Fron yn Ysbyty Tywysog Philip.

“Rwyf wedi cael fy syfrdanu gan y rhoddion hael a gefais. Mae pobl wedi bod mor garedig, rydw i wir yn gwerthfawrogi eu cefnogaeth. Yn wreiddiol gosodais darged codi arian o £500 ac fe wnes i gyrraedd hyn o fewn ychydig wythnosau. Mae wedi bod yn wych cefnogi elusen mor deilwng a chodi ymwybyddiaeth o’r gwaith gwych a wneir gan Uned Gofal y Fron Peony. Mae wedi bod yn brofiad gwerth chweil ac ni allaf ddiolch digon i bawb am eu cefnogaeth anhygoel.”

 

Dywedodd Nicola Llewellyn, Pennaeth Elusennau Iechyd Hywel Dda: “Hoffem ddweud da iawn i Julian am gymryd rhan yn y sialens anhygoel hon i’r Uned Gofal y Fron.

“Mae cefnogaeth ein cymunedau lleol yn ein galluogi i ddarparu gwasanaethau y tu hwnt i’r hyn y gall y GIG ei ddarparu yn nhair sir Hywel Dda ac rydym yn hynod ddiolchgar am bob rhodd a dderbyniwn.”

 

I gael rhagor o fanylion am elusen y GIG a sut y gallwch helpu i gefnogi cleifion a staff lleol y GIG, ewch i www.hywelddahealthcharities.org.uk

 


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle

LEAVE A REPLY

Please enter your comment!
Please enter your name here