Mae Gyrfa Cymru, mewn cydweithrediad â rhaglen Entrepreneuriaeth Ieuenctid Llywodraeth Cymru, Syniadau Mawr Cymru, yn lansio Her Ysgolion Cynradd y Criw Mentrus ar gyfer 2024-25. Gwahoddir ysgolion cynradd ledled Cymru i gofrestru a chystadlu mewn tri chategori, gyda gwobrau ariannol o hyd at £2,500 a gwobrau ychwanegol i oreuon y gweddill.
Mae’r her yn cynnig cyfle unigryw i ysgolion cynradd yng Nghymru arddangos nid yn unig eu hysbryd entrepreneuraidd, ond eu creadigrwydd, eu hymrwymiad i gynaliadwyedd, a’u cymunedau lleol. Bydd ysgolion sy’n cymryd cam ychwanegol wrth feithrin agwedd arloesol at entrepreneuriaeth yn cael eu cydnabod a’u gwobrwyo yn y categorïau canlynol:
Nod her y Criw Mentrus yw datblygu agweddau entrepreneuraidd hanfodol ymhlith dysgwyr ifanc, gan annog creadigrwydd, datrys problemau, a sgiliau cyfathrebu a threfnu, wrth feithrin eu hyder mewn llythrennedd a rhifedd.
Bydd pob ysgol sy’n cofrestru ar gyfer y gystadleuaeth ar-lein yn derbyn pecyn mynediad digidol gyda mynediad at adnoddau’r Criw Mentrus, sydd â’r nod o ysbrydoli plant ac athrawon fel ei gilydd gyda’r llawenydd o ddod o hyd i syniad busnes gwych, y wefr o wneud eu gwerthiant cyntaf, a’r boddhad o gefnogi eu cymuned leol. Mae’r adnoddau dysgu hwyliog hyn ar gyfer grwpiau oedran cynradd is ac uwch yn cyd-fynd â’r Cwricwlwm i Gymru.
Yn ogystal, bydd ysgolion sy’n rhannu lluniau o’u prosiect menter ar gyfer oriel y Criw Mentrus hefyd yn cael eu cynnwys mewn raffl fisol i ennill gwobrau arbennig i’w hysgol.
Dywedodd Mark Owen, Pennaeth Gwasanaethau i Randdeiliaid Gyrfa Cymru: “Rydym yn falch iawn o agor Her Ysgolion Cynradd y Criw Mentrus ar gyfer 2024-25. Ers dros ddeng mlynedd, mae’r gystadleuaeth hon wedi parhau i roi cyfle unigryw i ddysgwyr brofi byd menter, datblygu sgiliau hanfodol, a gwneud gwahaniaeth gwirioneddol yn eu cymunedau. Mae hefyd yn gyfle i ysgolion gael eu cydnabod am y gwaith entrepreneuraidd anhygoel y maent yn ei wneud ac i rannu eu llwyddiannau ag eraill.
“Rydym yn annog ysgolion ledled Cymru i gymryd rhan, gan ddefnyddio adnoddau’r Criw Mentrus i gefnogi eu dysgwyr a’u helpu i archwilio posibiliadau cyffrous entrepreneuriaeth.”
Dywedodd Carys Davies, Arweinydd Menter Ysgol Gynradd Halfway, a gymerodd ran yn her y llynedd: “Cafodd disgyblion gyfleoedd i ddatblygu sgiliau entrepreneuraidd mewn ffordd ddilys a hwyliog. Hyfryd oedd gweld hyder dysgwyr yn tyfu. O ddysgwyr â dawn fathemategol i’r rhai creadigol, cafodd pawb gyfle i gymryd rhan, cyfrannu, a dysgu o’r prosiect.
Hoffem ddatblygu a thyfu fel ysgol entrepreneuraidd a rhoi mwy o gyfleoedd i ddysgwyr gael profiadau dysgu dilys trwy gymryd rhan yn y Criw Mentrus.”
Manylion allweddol Her y Criw Mentrus:
Ar agor i bob ysgol gynradd yng Nghymru, yn y cyfnodau cynradd is ac uwch.
Mae’n ddelfrydol ar gyfer ysgolion sydd â chlybiau menter sefydledig, y rhai sydd wedi ymuno â heriau’r gorffennol, neu’r rhai sy’n awyddus i ddechrau eu gweithgareddau menter cyntaf.
Gall ysgolion gyflwyno unrhyw brosiect a arweinir gan ddisgyblion ac yn seiliedig ar waith tîm sydd wedi bod yn weithredol ar unrhyw adeg rhwng 1 Ionawr 2024 a’r dyddiad cau, sef 16 Mehefin 2025.
Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle
This website uses cookies so that we can provide you with the best user experience possible. Cookie information is stored in your browser and performs functions such as recognising you when you return to our website and helping our team to understand which sections of the website you find most interesting and useful.
Strictly Necessary Cookies
Strictly Necessary Cookie should be enabled at all times so that we can save your preferences for cookie settings.
If you disable this cookie, we will not be able to save your preferences. This means that every time you visit this website you will need to enable or disable cookies again.
We use cookies to ensure that we give you the best experience on our website. If you continue to use this site we will assume that you are happy with it.AcceptPrivacy Policy