Mae Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru a ColegauCymru yn rhybuddio am effaith ddinistriol toriadau cyllid prentisiaethau

0
215
Bryony Zorlutuna, prentis yn Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg

Mae’r ymchwil, a gynhaliwyd gan y Ganolfan Ymchwil Economeg a Busnes (Cebr) yn tynnu sylw at gost economaidd a chymdeithasol sylweddol toriadau cyllid prentisiaethau, sy’n effeithio’n arbennig ar y cymunedau mwyaf difreintiedig, a sectorau hanfodol fel gofal iechyd ac adeiladu. Mae’r canfyddiadau’n pwysleisio’r angen am fuddsoddiad parhaus mewn prentisiaethau i gefnogi twf economaidd a datblygu’r gweithlu yng Nghymru.

O ganlyniad i’r gostyngiad o tua 14% yn y gyllideb, mae’r adroddiad yn amlygu:

  • Mae bron i 6,000 yn llai o brentisiaethau yn dechrau yng Nghymru eleni
  • Effaith ‘tymor byr’ o £50.3 miliwn ar yr economi
  • sectorau iechyd a gofal cymdeithasol ac adeiladu sy’n cael eu heffeithio fwyaf
  • Mae toriadau ariannol yn effeithio’n anghymesur ar y mwyaf difreintiedig o fewn poblogaeth Cymru

Dywedodd Cyfarwyddwr Strategol NTFW, Lisa Mytton:

“Mae’r canfyddiadau’n rhybudd llym. Heb weithredu brys, rydym mewn perygl o niwed hirdymor i weithlu ac economi Cymru. Rhaid i brentisiaethau barhau i fod yn flaenoriaeth yng nghyllid y llywodraeth i sicrhau ein dyfodol.”

Ychwanegodd Prif Weithredwr ColegauCymru, David Hagendyk:

“Mae’r data’n peri cryn bryder ac yn tanlinellu effaith ddinistriol toriadau cyllid prentisiaethau ar economi Cymru a’n cymunedau mwyaf bregus. Mae rhaglen brentisiaethau cryf yn hanfodol ar gyfer adferiad economaidd Cymru, gan roi’r sgiliau sydd eu hangen ar unigolion a busnesau i lwyddo. Mae prentisiaethau yn hanfodol i adeiladu Cymru gryfach, wyrddach a thecach”.

Mae NTFW a ColegauCymru wedi galw eisoes ar Lywodraeth Cymru i adfer y gyllideb prentisiaethau i lefelau a welwyd cyn colli Cronfeydd Strwythurol Ewropeaidd. Mae canfyddiadau’r ymchwil yn cefnogi’r alwad hon er mwyn lliniaru unrhyw effaith bellach ar y Rhaglen Brentisiaethau yng Nghymru y tu hwnt i’r flwyddyn hon.

Rhaid i Lywodraeth Cymru adfer cyllid ar gyfer y rhaglen brentisiaethau. Mae’n hollbwysig rhoi’r staff a’r sgiliau sydd eu hangen ar ein gwasanaethau cyhoeddus i wella canlyniadau ac i roi’r sgiliau sydd eu hangen ar fusnesau i dyfu’r economi.


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle