O draciau trên i ryngrwyd lled band mawr – mae TfW Ffeibr yn cael ei lansio

0
183

Mae TrC Ffeibr, rhwydwaith cyfanwerthol ffeibr llawn o’r radd flaenaf yn lansio heddiw, gan gynnig cyfle i gwmnïau ddarparu cysylltedd rhyngrwyd cyflym i gymunedau cymoedd De Cymru.

Wrth adeiladu Metro De Cymru a gwneud newidiadau enfawr i’r seilwaith er mwyn trydaneiddio’r rheilffordd yng nghymoedd De Cymru, manteisiodd Trafnidiaeth Cymru ar y cyfle i osod rhwydwaith ffeibr llawn ar yr un pryd.

Yn eiddo i Trafnidiaeth Cymru, mae TrC Ffeibr yn lansio heddiw ac mae’n cynnig rhwydwaith i Ddarparwyr Gwasanaethau Rhyngrwyd a chwmnïau telathrebu sy’n barod i gael ei gysylltu ag ef, fel y gallant gynnig gwasanaethau rhyngrwyd cyflym i gwsmeriaid.

Dywedodd Alexia Course, Prif Swyddog Masnachol TrC:

“Rydym yn hynod falch ac yn gyffrous i lansio TrC Ffeibr heddiw, i ddarparu rhwydwaith cyflym o’r radd flaenaf i gwmnïau ei ddefnyddio a’i werthu yng nghymunedau’r cymoedd.

“Rydym wedi bod yn gwneud gwaith isadeiledd enfawr yn y cymoedd, yn trydaneiddio’r rheilffordd fel rhan o Fetro De Cymru ac roedd hyn yn gyfle i ni hefyd adeiladu’r seilwaith ar gyfer rhwydwaith craidd cyflym.

“Mae prosiect Metro De Cymru yn ymwneud â chysylltu pobl yn gorfforol tra bod TrC Ffeibr yn ymwneud â chysylltu pobl yn y byd digidol. Yn TrC, rydym yn cyd-fynd yn llwyr â Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) ac mae’r is-fusnes newydd hwn yn atgyfnerthu ein hymrwymiad i wella bywydau pobl yng Nghymru.”

Video: https://newyddion.trc.cymru/newyddion/o-draciau-tren-i-ryngrwyd-lled-band-mawr-mae-tfw-ffeibr-yn-cael-ei-lansio

Dywedodd Guy Reiffer, Rheolwr Gyfarwyddwr TrC Ffeibr:

“Dyma’r prosiect cyntaf o’i fath yn y diwydiant ac yn y DU – prosiect seilwaith rheilffyrdd sydd wedi arallgyfeirio a defnyddio’r hyn sydd eisoes wedi’i adeiladu i osod rhwydwaith ffeibr llawn sy’n gyflym ac sy’n gallu darparu’r rhyngrwyd.

“Rydyn ni’n gyffrous i lansio heddiw ac rydyn ni’n edrych ymlaen at weithio gyda chwmnïau telathrebu i ddarparu rhyngrwyd ffeibr llawn â lled band mawr i gymunedau sy’n anoddach eu cyrraedd.

“I bobl sy’n byw yn y cymoedd, bydd rhyngrwyd cyflym a alluogir gan ein cynnig ffeibr craidd yn agor cyfleoedd o ran ffordd o fyw a busnes.” Ewch i’n gwefan am ragor o wybodaeth – https://ffeibr.cymru/

 


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle