Syniad arloesol yn ennill prif wobr Her Academi Amaeth Cyswllt Ffermio

0
180
Emyr Owen (left); winner of the Agri Academy Challenge, Llŷr Jones; Agri Academy Leader and Anna Jones; winner of the Agri Academy Members Choice Award.

Mae aelodau carfan Academi Amaeth Cyswllt Ffermio 2024 wedi cael eu canmol am eu harbenigedd technegol a’u gweledigaeth gyda set o syniadau ar gyfer heriau busnes go iawn a chyflwynwyd gwobr i’r ennillydd yn Ffair Aeaf Frenhinol Cymru heddiw (25 Tachwedd).

Wrth i Academi Amaeth 2024 ddod i ben, roedd cydnabyddiaeth ar faes y sioe yn Llanelwedd i enillydd Her yr Academi Amaeth ac enillydd Gwobr Dewis Aelodau’r Academi Amaeth.

Emyr Owen, enillydd Her yr Academi Amaeth.

Enillydd gwobr Her Fferm yr Academi Amaeth oedd y rheolwr fferm Emyr Owen, un o’r 12 a oedd yn rhan o Academi Amaeth 2024.

Gosodwyd her i’r grŵp i greu cynllun gweithredu pum mlynedd ar gyfer Moor Farm, fferm laeth ger Treffynnon lle mae Rhys Davies a’i deulu’n cynhyrchu llaeth o fuches Ffrwd gyda 100 o wartheg Holstein Friesian pedigri.

Gweledigaeth Emyr oedd i’r fferm drosglwyddo i fuwch lai gan gynhyrchu llaeth o safon uchel wrth gynyddu nifer y buchod, newid a gredai a fyddai’n defnyddio’r llwyfan pori yn well ac yn lleihau costau porthiant a brynir i mewn.

Un arall o’i argymhellion oedd gosod robotiaid godro ail law yn lle parlwr herringbone 10/20, er mwyn helpu i gyflawni uchelgais Rhys i dreulio mwy o amser gyda’i deulu.

Awgrymodd Emyr, sy’n rheolwr fferm ar Ystâd Rhug yng Nghorwen, hefyd yr opsiwn i addasu ysgubor yn ystafell ddigwyddiadau fechan, i greu ffrwd incwm amgen. Mae Rhys yn dysgu’n rhan-amser a gallai hefyd ddefnyddio’r ysgubor fel canolfan ar gyfer ei ddosbarthiadau ei hun.

Anna Jones, enillydd Gwobr Dewis Aelodau’r Academi Amaeth

Roedd Rhys ar y panel o feirniaid pan gyflwynodd aelodau’r Academi Amaeth eu syniadau yn ystod penwythnos ym Mhlas Pantyderi, ger Boncath, Sir Benfro, yn gynharach y mis hwn.

Hefyd ar y panel roedd y dyn busnes Tom Allison, a oedd ymhlith carfan gyntaf yr Academi Amaeth yn 2012, a Laura Griffiths, Pennaeth y Gangen Cymorth Busnes Amaethyddol, Llywodraeth Cymru.

Dywedodd Tom, sy’n aelod o fwrdd Mentera, sy’n cyflwyno’r rhaglen Cyswllt Ffermio ar ran Llywodraeth Cymru, bod yr holl gyflwyniadau o safon uchel ac roedd tri yn rhagorol ond roedd cyflwyniad Emyr yn sefyll allan.

“Dangosodd Emyr ddadansoddiad a dealltwriaeth dechnegol dda iawn, roedd wedi nodi cryfderau a gwendidau’r fferm, ac wedi bod yn drylwyr yn ei waith ymchwil, gan hyd yn oed ystyried y grantiau y gallai’r fferm ymgeisio amdanynt,” meddai Tom.

Yn ystod y seremoni yn Ffair Aeaf Frenhinol Cymru, derbyniodd Anna Jones, ffermwr bîff a defaid o Bowys, Wobr Dewis Aelodau’r Academi Amaeth 2024 am ei hymrwymiad cyffredinol i’r rhaglen.

Roedd ei gweledigaeth ar gyfer Moor Farm yn cynnwys cyflwyno ynni solar fel ffrwd incwm amgen.

“Cafodd hwn hefyd ei ymchwilio’n dda iawn ac roedd yn drawiadol iawn,” meddai Tom.


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle