Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda wedi cyhoeddi heddiw bod Lisa Gostling wedi’i phenodi’n Ddirprwy Brif Swyddog Gweithredol.
Mae Lisa wedi bod yn Ddirprwy Brif Weithredwr dros dro yn y bwrdd iechyd ers mis Chwefror eleni, tra’n aros am benodi’r Prif Swyddog Gweithredol parhaol, a gyhoeddwyd ym mis Hydref.
Dywedodd yr Athro Phil Kloer, Prif Swyddog Gweithredol Hywel Dda: “Rwyf wrth fy modd bod Lisa, yn dilyn proses gystadleuol, wedi’i phenodi i swydd y Dirprwy Brif Swyddog Gweithredol, cyfrifoldeb y bydd yn ei dal yn ychwanegol at ei swydd fel Cyfarwyddwr Gweithredol y Gweithlu a Datblygu Sefydliadol.”
Symudodd Lisa o Orllewin Canolbarth Lloegr i Sir Benfro a datblygodd ei gyrfa o fewn timau y gweithlu a datblygu sefydliadol yn y Bwrdd Iechyd. Mae wedi gweithio i Hywel Dda a’r sefydliadau a’i rhagflaenodd ers 1993. Ers 2015, mae wedi bod yn aelod o’r tîm Gweithredol a’r Bwrdd fel Cyfarwyddwr y Gweithlu a Datblygu Sefydliadol. Ers mis Chwefror eleni, bu hefyd yn Ddirprwy Brif Swyddog Gweithredol dros dro. Mae ganddi gymhwyster CIPD o Goleg Sandwell ac mae wrthi’n frwd yn dysgu Cymraeg.
Dyma Phil yn parhau “Mae dull arloesol Lisa o recriwtio a datblygu staff wedi bod o fudd mawr i’n bwrdd iechyd – gan gynnwys datblygu ein diwylliant a’n gwerthoedd sy’n llywio ein gwaith bob dydd, a sefydlu’r Rhaglen Brentisiaeth sydd wedi galluogi nifer o bobl leol i ymuno â’n timau yn Hywel Dda a datblygu eu gyrfa gyda ni.
“Mae Lisa hefyd wedi bod yn allweddol wrth gefnogi ein gwaith i leihau ein dibyniaeth ar staff asiantaeth ac adeiladu ein gweithlu parhaol – gan sicrhau mwy o gynaliadwyedd ac ansawdd yn ein timau.
“Rwy’n edrych ymlaen at barhau i weithio gyda Lisa yn ei rôl newydd a dyma ddymuno pob llwyddiant iddi yn y dyfodol.”
Ychwanegodd Lisa Gostling, Dirprwy Brif Swyddog Gweithredol a Chyfarwyddwr Gweithredol y Gweithlu a Datblygu Sefydliadol: “Mae’n anrhydedd cael fy mhenodi i’r swydd hon a chefnogi Phil, ein Bwrdd, a’n timau ar draws y bwrdd iechyd i ddarparu gofal iechyd i’n cymunedau. Edrychaf ymlaen at adeiladu ar sylfeini’r chwe mis diwethaf a gweithio gyda’n tîm o staff sydd i gyd yn ymroddedig i wella iechyd a llesiant cenedlaethau’r presennol a’r dyfodol.”
Help keep news FREE for our readers
Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle