Canwr-gyfansoddwr Cymreig yn agor un o wyliau cerdd mwyaf India

0
184
Mari Mathias performs on the Centre Stage at Hornbill 2024

Perfformiodd y canwr gwerin Mari Mathias yn Gymraeg i filoedd o bobl ar ddiwrnod agoriadol un o wyliau cerdd mwyaf India.

Fe wnaeth Mari Mathias, canwr-gyfansoddwr sy’n cyflwyno ei hagwedd gyfoes i alawon gwerin traddodiadol ar gyfer cynulleidfaoedd heddiw, gamu ar brif lwyfan Gŵyl Gerdd Hornbill 2024 ar Ddydd Sul, Rhagfyr 1, ac ar Ddydd Llun, Rhagfyr 2. 

Dechreuodd yr artist 24 mlwydd oed ar ei pherfformiad o flaen tafluniad mawr o faner Cymru, cyn croesawu’r cerddor gwerin o Naga, Seyievinuo Chuzho i’r llwyfan. Perfformiodd y ddwy ddarn o gerddoriaeth y gwnaethon nhw gydweithio i’w greu sy’n cyfuno’r iaith Gymraeg ac iaith Naga.

Mari Mathias and Seyievinuo Chuzho at Hornbill 2024

Perfformiodd Mari a Seyievinuo am y trydydd tro yng Nghyngerdd Handshake, yn Raj Bhavan, Kohima ar Ddydd Mawrth, Rhagfyr 3.

Mae’r ŵyl 10 diwrnod ym mis Rhagfyr, sydd â’r llysenw “Gŵyl y Gwyliau”, yn dathlu ei 25ain blwyddyn ac yn denu ymwelwyr o bob rhan o’r byd. Dyma ddathliad mwyaf India o dreftadaeth lwythol gydag ymwelwyr yn ymgolli yn nhraddodiadau cyfoethog, cerddoriaeth a llên gwerin y rhanbarth.

Eleni, mae Cymru wedi’i phenodi yn bartner dynodedig yr ŵyl sy’n nodi diwedd Cymru yn India 2024, sef cyfres blwyddyn o hyd o ddathliadau a digwyddiadau i gryfhau’r cysylltiadau rhwng y ddwy wlad. Mewn partneriaeth â Llywodraeth Cymru, mae’r British Council, Dirprwy Uchel Gomisiwn Prydain yn India a Chelfyddydau Rhyngwladol Cymru wedi ymrwymo i gydweithio diwylliannol yn y dyfodol gan fuddsoddi mewn prosiectau celfyddydol drwy gronfa ddiwylliant penodedig.

Bydd y cerddor, Gareth Bonello sy’n byw yng Nghaerdydd hefyd yn dychwelyd i Hornbill gyda’i fand y Khasi-Cymru Collective. Teithiodd Gareth i Meghalaya ym mis Tachwedd i recordio cerddoriaeth newydd ar gyfer y prosiect sy’n tynnu cerddorion o Gymru ac India at ei gilydd.

Mari Mathias takes a bow following her first performance at Hornbill 2024

Mae Gareth Bonello yn perfformio o dan yr enw The Gentle Good ac yn adnabyddus am ei felodïau hudolus a threfniannau gitâr acwstig cywrain. Bydd Gareth yn perfformio yn Hornbill ar Ddydd Sul, Rhagfyr 8, gyda’r ffliwtydd a’r artist gweledol Benedict Hynniewta.

Dywedodd Mari ei bod hi’n fraint i arddangos diwylliant Cymreig yn rhyngwladol a dywedodd bod Cymru a Nagaland yn debyg o ran eu traddodiadau gwerin.

“Mae cysylltu Cymru ag India yn brofiad diwylliannol cyfoethog, ac mae hyn yn gyfle anhygoel i artist fel fi,” dywedodd Mari.

“Rwy’n ddiolchgar i’r British Council am ddod â mi yma i berfformio yng Ngŵyl Centre Stage yn New Delhi ac yng Ngŵyl Hornbill.

“Mae cerddoriaeth gwerin yn adfywio lleisiau hynafol, a dwi wir yn teimlo fod diwylliant a threftadaeth Naga yn debyg i ddiwylliant hynafol Cymreig. Mae cerddoriaeth yn rhyngwladol, ac mae’r digwyddiad yma’n cynnig cyfle arbennig i arddangos hynny.”

Dywedodd Ruth Cocks, Cyfarwyddwr British Council Cymru: “Mae hi wedi bod yn wych clywed am hanes Mari yn Nagaland yng Ngŵyl Hornbill sydd yn ddigwyddiad mor fawr yng nghalendr diwylliannol India. Mae ei chydweithrediad hi gyda Seyievinuo yn arddangos sut mae cerddoriaeth yn gallu pontio diwylliannau ac ieithoedd.

Mari Mathias and Seyievinuo Chuzho at Hornbill 2024

“Mae perfformiadau Mari yn Hornbill yn nodi diweddglo teilwng i Gymru yn India 2024, sydd wedi agor llwybrau ar gyfer cyfnewid diwylliannol rhwng India a Chymru. Mae hi wedi bod yn hyfryd i weld artistiaid Cymreig fel Mari a Gareth yn ymdrochi mewn traddodiadau ac arferion diwylliannol yn Nagaland, ynghyd â’r cydweithio cerddorol, gan gofleidio’r dysgu ehangach y mae gweithio’n rhyngwladol yn ei alluogi.” 

Dywedodd Jack Sargeant, Y Gweinidog Diwylliant, Sgiliau a Phartneriaeth Gymdeithasol: “Mae Blwyddyn Cymru yn India – sy’n cynnwys gŵyl eiconig Hornbill –  wedi cynnig nifer o blatfformau i rannu’r gorau o greadigrwydd Cymreig, cerddoriaeth, a’r celfyddydau ledled India ac ar un o lwyfannau diwylliannol mwyaf y wlad. Yn sicr, mae’n destun balchder i Gymru gyfan.”

 

 

 


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle