Mae diwrnod criced elusennol yng Nghlwb Criced Llandysul wedi codi £2,010 ar gyfer yr Uned Gofal Arbennig i Fabanod (SCBU) yn Ysbyty Glangwili.
Bob blwyddyn, mae Clwb Criced Llandysul yn trefnu diwrnod y llywydd lle mae aelodau’n codi arian at elusen wrth fwynhau gêm o griced, barbeciw a cherddoriaeth fyw. Eleni, dewisodd y clwb SCBU gan fod mab i aelodau’r gymuned leol, Lowri Davies a Jordan Jones, yn derbyn gofal ardderchog yno.
Dywedodd Lowri: “Ganed ein mab, Elis Rees Jones, ar 5 Ionawr, wyth wythnos yn gynnar. Roedd y gofal a gafodd yn ystod ei bum wythnos yn yr uned yn rhagorol. Roedd y gefnogaeth a gafodd ein teulu yn ystod y cyfnod anodd hwn yn wych ac roedd gallu aros mewn ystafell ar y ward yn agos at Elis yn golygu’r byd absoliwt. Byddwn yn ddiolchgar am byth i holl staff SCBU.
“Fe wnaethon ni gynnal diwrnod hwyl criced elusennol yng Nghlwb Criced Llandysul. Roedd gan dafarndai’r ardal dîm criced yr un ac yn chwarae gemau gyda’i gilydd drwy gydol y dydd. Gorffennon ni gyda dau dîm merched yn chwarae yn erbyn ei gilydd. Rydym nawr yn gobeithio trefnu’r digwyddiad hwn bob blwyddyn.
“Diolch i Glwb Criced Llandysul, yr holl fusnesau lleol a gyfrannodd y gwobrau raffl, y Gwarcefel Arms am gynnal y nosweithiau bingo, mochyn rhost Swine and Dine am y bwyd, Way Out West am y gerddoriaeth ac yn bwysicaf oll y gymuned leol am ymuno â ni i godi’r arian.”
Dywedodd Nicola Llewelyn, Pennaeth Elusennau Iechyd Hywel Dda: “Diolch yn fawr iawn i Lowri, Jordan a’u cefnogwyr am godi swm mor wych ar gyfer yr Uned Gofal Arbennig i Fabanod.
“Mae cefnogaeth ein cymunedau lleol yn ein galluogi i ddarparu gwasanaethau y tu hwnt i’r hyn y gall y GIG ei ddarparu yn nhair sir Hywel Dda ac rydym yn hynod ddiolchgar am bob rhodd a dderbyniwn.”
I gael rhagor o fanylion am elusen y GIG a sut y gallwch chi helpu i gefnogi cleifion a staff lleol y GIG, ewch i: www.hywelddahealthcharities.org.uk
Help keep news FREE for our readers
Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle