Rhedwyr Hanner Marathon Caerdydd yn codi £7,000 ar gyfer uned cemotherapi Bronglais

0
170
Pictured above: Emily Evans, Geraint Evans, Haematology Nurse Heulwen Lewis, and Gareth Hughes

Rhedodd Geraint, Gareth Kirby, Dan Edwards-Phillips, Rhys Taylor, Gareth Lanagan, Kevin Ashford, Elinor Powell, Holly Hughes a merch Geraint, Emily Evans, y ras i ddiolch am y gofal ardderchog a gafodd Geraint ar yr uned ar ôl iddo fod yn cael diagnosis o myeloma lluosog ddwy flynedd yn ôl.

Meddai Geraint: “Diolch i’r holl dîm gwych a redodd Hanner Caerdydd: Emily, Kevin, Gaz L., Dan, Elinor, Holly a Gaz K. Diolch hefyd i’r Village Idiots a Lost The Plot am gynnal noson wych yn The View, Brynrodyn. A diolch i holl staff Maes Carafanau Brynrodyn am eu holl gymorth.

“Rwyf wedi fy syfrdanu gan haelioni pawb a gyfrannodd a’r swm a godwyd at achos mor deilwng. Diolch.”

Dywedodd Nicola Llewelyn, Pennaeth Elusennau Iechyd Hywel Dda, elusen swyddogol Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda: “Hoffem ddiolch yn fawr iawn i Geraint a’i dîm am godi swm mor wych ar gyfer Uned Ddydd Leri yn Bronglais.

“Mae cefnogaeth ein cymunedau lleol yn ein galluogi i ddarparu gwasanaethau y tu hwnt i’r hyn y gall y GIG ei ddarparu yn nhair sir Hywel Dda ac rydym yn hynod ddiolchgar am bob rhodd a dderbyniwn.”

I gael rhagor o fanylion am elusen y GIG a sut y gallwch chi helpu i gefnogi cleifion a staff lleol y GIG, ewch i www.hywelddahealthcharities.org.uk


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle