ydym yn croesawu cyhoeddiad cyllideb ddrafft Llywodraeth Cymru heddiw sy’n blaenoriaethu iechyd a gofal cymdeithasol, gan ddyrannu dros £400 miliwn o arian y mae mawr ei angen, gan gynnwys mynd i’r afael â rhestrau aros hirfaith. Rydym hefyd yn croesawu cyllid i gefnogi’r rhwydwaith bysiau a’r arian ychwanegol i awdurdodau lleol gefnogi gofal cymdeithasol. Edrychwn ymlaen at weld sut mae’r holl gyllid hwn yn troi’n gymorth i bobl hŷn ledled Cymru.
Fodd bynnag, gyda phenderfyniad Llywodraeth y DU i brawf modd y Taliadau Tanwydd Gaeaf, rydym yn siomedig â’r diffyg cymorth ariannol i bobl hŷn a fydd yn gweld hi’n anodd gyda’u biliau ynni y gaeaf hwn. Ac er ein bod yn croesawu’r cynnydd yn y cyllid ar gyfer Cronfa Cymorth Ddewisol (DAF) hoffwn weld y meini prawf yn ehangu i gefnogi mwy o bobl hŷn sydd ei angen.
Help keep news FREE for our readers
Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle