Ci Tywys Jamie yn clocio i mewn yn Trafnidiaeth Cymru

0
280
Nathan Foy, Guide Dogs Cymru and Joey the Guide Dog, Geoff Ogden TfW and Ryan Moreland and Guide Dog Jamie

Pan ymgeisiodd Ryan am y swydd, hwn oedd ei gyfweliad swydd cyntaf erioed gyda chi tywys wrth ei ochr. Roedd yn brofiad cadarnhaol, a llwyddodd i gael y swydd ar ei rinweddau ei hun.

Dywedodd Geoff Ogden, Prif Swyddog Cynllunio a Datblygu Trafnidiaeth, Trafnidiaeth Cymru:

“Mae Ryan a Jamie ill dau yn ymgartrefu’n dda ac fel cwmni fe wnaethom addasiadau rhesymol bach i ddarparu ar gyfer eu hanghenion penodol.

“Trwy wneud yr addasiadau bach hyn, gallwn wneud gwahaniaeth mawr, ac rydym yn gobeithio gosod esiampl i eraill a hyrwyddo amgylchedd cynhwysol TrC.”

Dywedodd Andrea Gordon, Pennaeth Materion Allanol Cŵn Tywys Cymru:

Jamie TfW Staff Card

“Mae’n wych clywed bod TrC yn gwneud i Ryan a Jamie deimlo’n gartrefol yn y gwaith.

“Mae’n ofynnol i gyflogwr wneud addasiadau rhesymol i alluogi gweithiwr anabl sydd â chi cymorth i fynychu ei weithle a chyflawni ei swydd.

“Mae cŵn fel Jamie wedi’u hyfforddi’n dda ac yn gyfarwydd â bod o gwmpas pobl yn y sefyllfaoedd hyn, felly rwy’n gobeithio y bydd yn dod â gwên i’w hwynebau pan fydd yn eu croesawu i’r gwaith.”

Mae cydweithiwr Ryan, Katie Williams, wedi lansio ymgyrch codi arian ar gyfer Cŵn Tywys drwy Rwydwaith Young Rail Professionals Cymru. Mewn ychydig fisoedd yn unig, mae hi wedi llwyddo i godi £700 ar gyfer yr apêl ‘Enwi Ci Bach’, gyda’r nod o enwi ci bach yn ‘Isambark Brunel’ er anrhydedd i’r peiriannydd sifil enwog. Bydd y rhodd hael yma o gymorth mawr i Gŵn Tywys yn eu cenhadaeth hollbwysig i hyfforddi cŵn tywys sy’n newid bywydau.


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle