Mae Heddlu Dyfed Powys yn apelio am wybodaeth yn dilyn adroddiad bod camerâu cyflymder wedi eu difrodi gydag offer pŵeredig ar yr A4069 Bwlch y Mynydd Du rhwng Brynaman a Llangadog.
Cyflawnwyd y digwyddiadau ar bum achlysur rhwng Chwefror a Rhagfyr 2024 ac roeddent yn cynnwys difrodi’r ffynhonnell ynni solar yn ogystal â dwyn batris.
Gosodwyd y camerâu cyflymder cyfartalog wedi i dri o bobl gael eu lladd a 37 gael eu hanafu rhwng 2013 a 2023. Roedd y rhain i gyd o fewn adran bedair milltir o’r ffordd lle mae’r camerâu wedi eu gosod.
Ers i’r camerâu gael eu gosod ni chofnodwyd unrhyw niweidiau. Fe’u gosodwyd drwy ddefnyddio arian cyhoeddus ar gost o £250,000. Ers iddynt gael eu dinistrio mae’r ffordd unwaith eto wedi dod yn risg uchel i bobl sy’n ei defnyddio ac amcangyfrifir y bydd yn costio £180,000 i drwsio’r difrod a’i gwneud yn ddiogel.
Dywedodd Rheolwr Partneriaeth GanBwyll, y Prif Arolygydd Gareth Morgan:
“Mae arwyddion cynnar ar gyfer y cynllun hwn wedi bod yn gadarnhaol ac nid oes unrhyw un wedi ei ladd na’i anafu ers iddynt gael eu gosod. Ar adeg pan mae’r pwrs cyhoeddus dan straen mae’r gweithredoedd disynnwyr hyn yn cynyddu risg ac yn faich ar yr awdurdod lleol a osododd y camerâu.
Tra bod cyfran fechan o gymdeithas efallai’n hoffi meddwl fod hyn yn dderbyniol, mae’n bwysig cofio i’r camerâu hyn gael eu gosod yn dilyn marwolaethau ar y ffordd hon. Mae gwrthdrawiadau’n achosi trawma a phoen calon i ffrindiau a theuluoedd sydd wedi colli anwyliaid. Mae’r fandaliaeth a’r lladrad hwn yn cynyddu’r risg o ddigwyddiad trasig arall ar y ffordd hon.”
Gofynnir i unrhyw un sydd â gwybodaeth a allai helpu swyddogion gyda’u hymchwiliad ei hadrodd i Heddlu Dyfed Powys, naill ai arlein ar: https://bit.ly/DPPContactOnline, drwy anfon ebost at 101@dyfed-powys.police.uk, neu drwy ffonio 101.
Os ydych yn fyddar, yn drwm eich clyw, neu os oes gennych amhariad lleferydd anfonwch neges destun at y rhif difrys ar 07811 311 908.
Fel arall, cysylltwch â’r elusen annibynnol Crimestoppers yn ddienw drwy ffonio 0800 555111, neu drwy fynd at crimestoppers-uk.org.
Help keep news FREE for our readers
Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle