Sector cyhoeddus Cymru yn arwain y ffordd o ran defnyddio AI mewn modd cyfrifol

0
346
Person using laptop

Heddiw, mae Cyngor Partneriaeth y Gweithlu Cymru wedi rhannu canllawiau newydd ar ddefnyddio deallusrwydd artiffisial (AI) ar draws gweithleoedd y sector cyhoeddus mewn modd moesegol a chyfrifol.

Maen nhw wedi cael eu hamlinellu mewn dau adroddiad – ‘Rheoli Technoleg sy’n Rheoli Pobl – Dull Partneriaeth Gymdeithasol’ a ‘Defnyddio AI yn y Gwaith – Adroddiad Meincnodi ar Ymwybyddiaeth a Dealltwriaeth o AI yn Sector Cyhoeddus Cymru’ – sydd wedi cael eu cynhyrchu drwy fodel partneriaeth gymdeithasol sy’n unigryw i Gymru. Mae hyn yn golygu eu bod wedi cae eu creu’n hollol ar y cyd gan Lywodraeth Cymru, cyflogwyr sector cyhoeddus a’r undebau llafur.

Mae’r canllawiau newydd hyn yn atgyfnerthu’r ymrwymiad cyffredin ar draws sector cyhoeddus Cymru i harneisio manteision technolegau sy’n dod i’r amlwg, wrth ddiogelu rhag risgiau posibl, yn enwedig i’r gweithlu.

Mae’r adroddiadau’n amlinellu fframwaith cyfannol ar gyfer gweithredu AI, gan ganolbwyntio ar dri maes hanfodol: gwiriadau a chadw cydbwysedd, gweithredu cyfrifol a gwerthuso ar ôl mabwysiadu AI.

Dywedodd y Gweinidog Partneriaeth Gymdeithasol, Jack Sargeant:

“Wrth i AI barhau i lunio dyfodol ein gweithleoedd, mae’n hanfodol bod gweithwyr gwasanaethau cyhoeddus a sefydliadau fel ei gilydd yn elwa ar yr arloesi parhaus hwn. Mae ein dull gweithredu’n sicrhau ein bod yn defnyddio AI mewn gwasanaethau cyhoeddus mewn modd tryloyw a’i fod yn cael ei oruchwylio gan bobl.

“Mae’r tair egwyddor allweddol yn adlewyrchu ein ‘ffordd Gymreig’ o ddefnyddio partneriaeth gymdeithasol – sef gwneud penderfyniadau ar y cyd sy’n rhoi blaenoriaeth i degwch, sicrwydd swyddi a datblygu’r gweithlu.

“Gyda’r adnoddau hyn, rydyn ni’n ailddatgan safbwynt Cymru fel arweinydd wrth fabwysiadu AI mewn modd moesegol, gan osod meincnod ar gyfer rheoli technoleg gyfrifol ar draws y sector cyhoeddus.”

Mae’r canllawiau wedi derbyn cefnogaeth gref gan y Cyngor Partneriaeth Gymdeithasol a rhanddeiliaid allweddol eraill, gan adlewyrchu consensws eang ynghylch ei bwysigrwydd.

Mae’r Ganolfan Gwasanaethau Cyhoeddus Digidol (CDPS) hefyd yn gweithio ar adnoddau ategol i roi rhagor o gymorth i gyrff sector cyhoeddus i ddefnyddio AI mewn modd moesegol.

Dywedodd Shavanah Taj, Ysgrifennydd Cyffredinol, TUC Cymru:

“Er mwyn manteisio i’r eithaf ar systemau AI sy’n rheoli gweithwyr, rhaid i weithwyr feddu ar lais cryf yn y ffordd maen nhw’n cael eu dylunio a’u defnyddio. 

“Mae TUC Cymru ac undebau’r sector cyhoeddus yn croesawu cyhoeddi ‘Rheoli Technoleg sy’n Rheoli Pobl’, oherwydd y bydd yn sicrhau bod gweithwyr yn rhannu’r manteision y gallai AI eu cynnig.

“Roedd undebau’n falch o gael gweithio’n agos gyda chyflogwyr a Llywodraeth Cymru i gytuno ar y canllawiau hyn.  Mae’n dangos manteision gweithio mewn partneriaeth gymdeithasol.”

Nesaf bydd Llywodraeth Cymru a phartneriaid cymdeithasol yn rhoi rhaglen gyfathrebu gynhwysfawr ar waith i sicrhau bod y deunyddiau, y dulliau a’r argymhellion cael eu sefydlu’n effeithiol mewn gweithleoedd ledled Cymru.


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle