Gofynnir i ymwelwyr Ysbyty Tywysog Philip, Llanelli, fynychu dim ond os ydynt yn rhydd o unrhyw symptomau tebyg i ffliw, neu unrhyw symptomau salwch, a gofynnir i ymwelwyr wisgo mwgwd cyn cael mynediad i wardiau.
Mae ffliw tymhorol yn effeithio ar gleifion ar sawl ward ac mae camau atal heintiau yn cael eu cymryd. Gofynnir i ymwelwyr fynychu dim ond os ydynt yn rhydd o unrhyw heintiau ac i olchi dwylo a gwisgo mwgwd wyneb, y gellir eu darparu ar y wardiau.
Cyfyngir ymhellach ar ymweliadau â’r Uned Asesu Meddygol Acíwt a hynny drwy drefniant gyda phrif nyrs y ward yn unig.
Bydd ceisiadau penodol i ymweld yn cael eu hystyried yn unigol. Bydd y trefniant hwn yn cael ei adolygu’n ddyddiol, a bydd cyfyngiadau’n cael eu codi cyn gynted â phosibl.
Dywedodd Meinir Williams, Dirprwy Bennaeth Nyrsio Ysbyty Tywysog Philip: “Yn y wardiau yr effeithiwyd arnynt, mae’r holl staff yn gwisgo mygydau ac mae ymweliadau’n gyfyngedig i helpu i atal y lledaeniad.
“Gall ein cymuned leol ein helpu i osgoi achosion drwy beidio ag ymweld â theulu a ffrindiau yn yr ysbyty os ydych yn teimlo’n sâl.
“Hefyd, yn ddiamau, brechiad ffliw blynyddol yw’r ffordd orau o amddiffyn rhag dal neu ledaenu’r ffliw. Nid yn unig y gall eich atal rhag mynd yn sâl iawn, gall hefyd helpu i leihau eich risg o heintiau eilaidd fel niwmonia a all fod yn beryglus iawn os ydych yn glinigol agored i niwed.”
Bydd canolfannau brechu ar agor, nid oes angen apwyntiad ar 27, 30 a 31 Rhagfyr ar gyfer pawb sy’n gymwys i gael brechlyn ffliw a COVID-19. Mae hyn yn cynnwys plant 2 oed (ar 31 Awst 2024) i’r rhai ym mlwyddyn 11 sy’n gallu cael gafael ar y brechlyn ffliw trwynol yn y canolfannau.
Galwch heibio unrhyw bryd rhwng 09.15am a 5.30pm i’ch canolfan frechu agosaf:
- Aberaeron (Canolfan Gofal Integredig Aberaeron, Aberaeron SA46 0DY)
- Llanelli (Uned 2a, Stad Ddiwydiannol Dafen, Heol Cropin, SA14 8QW)
- Neyland (Uned 1 Parc Manwerthu Honeyborough, SA73 1SE)
Mae’r grwpiau canlynol yn gymwys i gael eu brechu:
Brechiad Ffliw
- Plant dwy a thair oed ar 31 Awst 2024
- Plant yn yr ysgol gynradd o’r dosbarth derbyn i flwyddyn 6
- Plant mewn ysgol uwchradd o flwyddyn 7 i flwyddyn 11
- Pobl rhwng chwe mis a 64 oed mewn grwpiau risg clinigol
- Pobl 65 oed a hŷn (oed ar 31 Mawrth 2024)
- Merched beichiog
- Gofalwyr 16 oed a throsodd
- Pobl rhwng 6 mis a 65 oed sy’n byw gyda rhywun sydd â system imiwnedd wan
- Pobl ag anabledd dysgu
- Gweithwyr iechyd a gofal cymdeithasol rheng flaen
- Pob aelod o staff sy’n gweithio mewn cartrefi gofal gyda chyswllt rheolaidd â chleientiaid
- Gweithwyr dofednod mewn risg uchel
Brechiad COVID-19
- Pobl rhwng 6 mis a 64 oed sydd â chyflwr iechyd hirdymor (sy’n cynnwys menywod beichiog a phobl â system imiwnedd wan)
- Preswylwyr mewn cartref gofal i oedolion hŷn
- Pobl 65 oed a hŷn (oed ar 31 Mawrth 2025)
- Gofalwyr di-dâl
- Gweithwyr iechyd a gofal cymdeithasol rheng flaen
- Staff sy’n gweithio mewn cartrefi gofal i oedolion hŷn
Os oes gennych unrhyw gwestiynau am gael mynediad at y brechlyn ffliw a/neu COVID-19, ffoniwch y bwrdd iechyd ar 0300 303 8322 opsiwn 1 neu e-bostiwch: ask.hdd@wales.nhs.uk
Help keep news FREE for our readers
Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle