Y Disgo Tawel sy’n boblogaidd gyda gofalwyr ifanc Wrecsam

0
158
Mae’r elusen sy’n cefnogi gofalwyr ifanc yn Wrecsam, Credu, wedi gallu prynu offer i gynnal disgo tawel sy’n boblogaidd iawn gyda’r gofalwyr ifanc, diolch i gyllid gan y Gronfa Ffyniant Gyffredin – Cronfa Allweddol Wrecsam.
Mewn cais ar y cyd â chlwb nos cynhwysol Flamingo Lounge Wrecsam, fe wnaethant sicrhau cyllid o £xxxx i dalu am yr offer Disgo Tawel.
Y gofalwyr ifanc eu hunain, sy’n amrywio o 5 oed i 18 oed, oedd am ychwanegu disgo tawel at yr ystod o weithgareddau sy’n cael eu cynnig gan yr elusen.
Leanne Jeffreys, Arweinydd Gwaith Maes Credu yn Wrecsam, sy’n esbonio mwy, “Cafodd y gofalwyr ifanc y syniad ar ôl iddynt fod yng Ngŵyl Gofalwyr Ifanc Cymru ddiwedd mis Awst.  Cawsant ddisgo tawel yn yr ŵyl, ac roeddent wrth eu boddau. Roeddent yn gallu rheoli pa gerddoriaeth oedden nhw’n wrando arno, a pha mor uchel, trwy’r clustffonau.
“Pan gyrhaeddon ni’n ôl, roedden nhw i gyd yn meddwl y byddai’n anhygoel pe baen ni’n gallu ychwanegu hyn at y gweithgareddau rydyn ni’n eu cynnig yn Wrecsam.  Y gofalwyr ifanc oedd yn gyrru’r cais am y cyllid, a nhw oedd y rhai welodd angen amdano.”
Bellach mae ganddyn nhw 50 o glustffonau a thri throsglwyddydd er mwyn cynnal disgo tawel ac maen nhw wedi gallu cynnig digwyddiadau i deuluoedd a gofalwyr ifanc.
Ychwanegodd Leanne, “Mae’r digwyddiadau hyn yn cynnig cyfle i’r gofalwyr ifanc ddianc, ymlacio a gwneud ffrindiau. Yn ogystal â disgo cynhwysol misol yn Ellesmere, rydyn ni wedi cynnal pob math o ddigwyddiadau arbennig, megis disgo tawel hyfryd aml-genedlaethau gyda cherddoriaeth i apelio at bawb – o’r 60au a cherddoriaeth glasurol i ganeuon poblogaidd sydd ar TikTok ar hyn o bryd.”
“Yr hyn sydd hefyd yn arbennig yw bod gennym ni tîm cynhyrchu Disgo Tawel – sef grŵp o ofalwyr ifanc sy’n rheoli ac yn cynnal y digwyddiadau.  Mae cael y cyfrifoldeb yma yn dysgu sgiliau technegol a chyflwyno newydd iddynt, yn ogystal â rhoi hwb i’w hyder.”
Un gofalwr ifanc sy’n rhan o’r tîm cynhyrchu yw Lacie, 16 oed.
Meddai Leanne, “Mae Lacie wedi chwarae rhan allweddol yn natblygiad y prosiect hwn, gan ddysgu’r broses o osod y trosglwyddyddion a’r clustffonau’n gyflym iawn, yn ogystal â’r dasg bwysig o drefnu rhestrau chwarae priodol i’r bobl ifanc.
“Rydym wedi gweld y cynnydd yn hyder Lacie a’i sgiliau rhyngbersonol wrth iddi ddysgu symleiddio’r camau er mwyn defnyddio’r clustffonau fel bod pob gallu yn deall, a phawb yn cael cyfle i fwynhau’r profiad.
“Mae’r adborth ar y Disgo Tawel wedi bod yn gadarnhaol iawn ac mae rhan fawr o hyn oherwydd gallu Lacie i egluro sut i ddefnyddio’r offer, yn ogystal â’i hamynedd.”
Ychwanegodd Lacie, “Mae’r disgo distaw wedi bod yn ffordd gynhwysol i bobl fwynhau eu cariad at gerddoriaeth.
“Mae wedi rhoi hwb i fy hyder i a dw i wedi dysgu llawer o sgiliau newydd ohono. Mae wedi rhoi’r hyder i mi sgwrsio mwy â phobl.”
Mae’r cyllid yn cael ei weinyddu gan fenter gymdeithasol Cadwyn Clwyd, fel rhan o becyn ehangach gwerth £4.75 miliwn i gefnogi cymunedau a busnesau yng Ngogledd Ddwyrain Cymru.
Meddai Helen Williams, [teitl] Cadwyn Clwyd, “cwot gan Cadwyn Clwyd”
Mae’r cyllid yn rhan o Gronfa Ffyniant Gyffredin Llywodraeth y DU, a fydd wedi darparu cyllid o £2.6 biliwn ar gyfer buddsoddiad lleol ledled y DU erbyn diwedd y flwyddyn hon.
Am fwy o wybodaeth am Cadwyn Clwyd ewch i https://cadwynclwyd.co.uk. 

Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle

LEAVE A REPLY

Please enter your comment!
Please enter your name here