Croeso Cymru yn gwahodd y byd i deimlo’r ‘hwyl’ yn 2025

0
117
Hwyl

Mae “Teimla’r hwyl. Gwlad, Gwlad” – ymgyrch ddiweddaraf Croeso Cymru – yn cychwyn yn swyddogol heddiw gyda galwad i ymwelwyr o bell ac agos i ddathlu a phrofi adegau llawen a hwyliog sy’n unigryw i Gymru.

Nod y cysyniad ‘hwyl’, sy’n rhan o Flwyddyn Croeso 2025, yw gwahaniaethu rhwng Cymru a chyrchfannau eraill mewn marchnad gystadleuol drwy ganolbwyntio ar ein hiaith ac ymdeimlad cryf o le.

Cafodd yr ymgyrch ei ffilmio mewn dros ddwsin o leoliadau ledled Cymru yn ystod Haf a Hydref 2024 mewn cydweithrediad Ăą’r diwydiannau creadigol yng Nghymru. Mae’r lleoliadau’n amrywio o gyrchfannau arfordirol fel Dinbych-y-pysgod a bae’r Tri Chlogwyn ar Benrhyn GĆ”yr, i Ć”yl gerddoriaeth ym Merthyr Mawr, gĂȘm gartref yn Wrecsam a hyd yn oed taith balĆ”n aer poeth uwchben castell godidog Rhaglan.

Hwyl

Mae Maxine Hughes, newyddiadurwaig sy’n adnabyddus ar gyfer ‘Welcome to Wrexham’, hefyd yn ymddangos fel rhan o’r ymgyrch i esbonio ‘hwyl’ a sut gall Cymru gynnig profiadau hwyliog di-ri.

Mae’r ymgyrch aml-blatfform yn defnyddio seiniau go iawn o bob cwr o Gymru yn hytrach na cherddoriaeth mewn tuedd sy’n dod i’r amlwg ar gyfer ymgyrchoedd ymgolli synhwyraidd sy’n rhoi cyfle i wylwyr nid yn unig weld cyrchfannau eiconig, ond hefyd i’w clywed a phrofi’r foment a dychmygu eu hunain yn yr union leoliad hwnnw.

Mae’r thema a’r ymgyrch hefyd yn hawdd i bartneriaid, cyrchfannau a busnesau twristiaeth mawr neu fach fanteisio arnynt a’u cefnogi.

Bydd sefydliadau partner hefyd yn rhannu eu profiadau o hwyl yn ystod y flwyddyn gan gynnwys Clwb PĂȘl-droed Wrecsam, Cadw, Trafnidiaeth Cymru, Llwybr Arfordir Cymru a’r Llwybrau Cenedlaethol, cyrchfannau twristiaeth rhanbarthol fel Croeso Sir Benfro ac awdurdodau parciau cenedlaethol fel Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog.

Dywedodd Ysgrifennydd yr Economi, sy’n gyfrifol am dwristiaeth, Rebecca Evans:

“Bydd 2025 yn dathlu’r pethau llawen sy’n ein gwneud ni’n unigryw Gymreig a dim ond yma yng Nghymru y gallwch eu profi. Rydym am rannu ein ‘croeso’ cynnes a’n ‘hwyl’ unigryw gyda’r byd a’u gwahodd nid yn unig i weld ond hefyd i deimlo, blasu a phrofi’r pethau ‘mae’n rhaid’ eu gwneud sydd ar gael gennym.

“Rydym hefyd yn falch iawn o fod yn hyrwyddo ein hiaith fendigedig drwy ddefnyddio gair Cymraeg am y tro cyntaf yn ein negeseuon cyfathrebu Ăą chynulleidfaoedd byd-eang.

“Gall pawb ein helpu i fynd Ăą hyd yn oed mwy o Gymru i’r byd yn 2025 drwy rannu’r ymgyrch a theimlo’r hwyl drostyn nhw eu hunain.”

Hwyl

Ychwanegodd Prif Weithredwr Clwb PĂȘl-droed Wrecsam, Michael Williamson:

“Rydym yn falch o fod wedi cydweithio Ăą Croeso Cymru fel rhan o’u hymgyrch “Blwyddyn Croeso”.

“Gall pawb fod yn sicr o gael Croeso cynnes i Wrecsam yn y STƍK Cae Ras, stadiwm pĂȘl-droed ryngwladol hynaf y byd, ac yn sicr mae digon o “Hwyl” wrth gefnogi Clwb PĂȘl-droed hynaf Cymru.

“Rydyn ni’n falch o’n treftadaeth, ein diwylliant, ein hanes a’n cymuned yn ein cornel o Ogledd Cymru ac rydyn ni’n parhau i estyn gwahoddiad i bawb a hoffai ymweld Ăą Wrecsam a Gogledd Cymru i’w brofi drostynt eu hunain.”

Bydd Croeso Cymru hefyd yn gweithio’n agos gyda rhannau eraill o Lywodraeth Cymru yn ystod Blwyddyn Croeso i gynyddu’r defnydd o’r Gymraeg yn y diwydiant twristiaeth, hyrwyddo Bwyd a Diod Cymru i annog ymwelwyr i siopa’n lleol, a siarad yn rhagweithiol Ăą myfyrwyr am ymuno Ăą diwydiant twristiaeth a lletygarwch Cymru fel gyrfa.


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle

LEAVE A REPLY

Please enter your comment!
Please enter your name here