Set-jetio – mynd am wyliau i lefydd sydd wedi ymddangos mewn ffilm neu deledu adnabyddus – yw’r duedd ddiweddaraf sydd wedi sicrhau lle i Gymru ar restr y ‘lleoedd gorau i ymweld â nhw’ yn 2025.
Yn dilyn llwyddiant y bennod deledu gafodd y nifer uchaf o wylwyr dros y Nadolig yn y ganrif ddiwethaf, a chyflwyno lleoliadau sgrin di-rif yng Nghymru i gynulleidfa fyd-eang yn 2024, mae effeithiau hyn ar dwristiaeth Cymru yn cynyddu.
Mae dylanwad Gavin a Stacey ar dwristiaeth wedi para 17 mlynedd, ond erbyn wythnos gyntaf mis Ionawr 2025 roedd degau o filoedd o gefnogwyr wedi ymweld â gwefan Croeso Cymru i gael gwybodaeth am yr ardal neu i holi sut ymuno â thaith enwog Dave Coaches.
Yn nhymor 2 y prequel poblogaidd i’r Game of Thrones, House of the Dragon, gwelwyd sawl lleoliad godidog yn y Gogledd – yng Ngwynedd ac Ynys Môn a draw i Gonwy. Mae gweld yr arfordir, ynysoedd a thirweddau hardd hyn wedi gwneud y Gogledd yn gyrchfan y mae’n rhaid ymweld â hi.
Daw’r llwyddiannau hyn wrth i VisitBritain lansio heddiw [dydd Mawrth 21 Ionawr] ymgyrch ‘Starring GREAT Britain’, ymgyrch twristiaeth sgrin i ddenu twristiaid o bob cwr o’r byd, gan ddefnyddio ffilmiau a sioeau teledu fel bachyn i’w temtio a’u sbarduno i wario yn y pedair gwlad a rhoi hwb i economïau lleol.
Mae Croeso Cymru a VisitBritain wedi dod ynghyd i gydweithio i lansio’r ymgyrch ryngwladol fawr hon a fydd yn cynnwys lleoliadau epig House of the Dragon fel prif elfen iddi. Bydd yn cael ei hyrwyddo ledled y byd, gan gynnwys yn UDA, yr Almaen, Ffrainc ac Awstralia.
![](https://xvctqx.infiniteuploads.cloud/2025/01/cover-image-credit-Theo-Whiteman-and-HBO_cropped-300x169.jpg)
Mae degau o filiynau o bobl o bob cwr o’r byd yn ymweld â’r DU bob blwyddyn i hamddena, a’r amcangyfrif yw iddynt wario £32.5 biliwn y llynedd yn unig.
Mae set-jetio wedi chwarae rhan fawr yn hynny, a chyda sector creadigol Cymru yn mynd o nerth i nerth, mae’r economi ymwelwyr yn adlewyrchu hynny. Ac wrth reswm, mae VisitBritain, Croeso Cymru ac eraill yn awyddus i wneud yn fawr o hynny.
I’r rhai sydd am gymryd ‘gwyliau lleoliad’ yng Nghymru, mae digon ar gael iddyn nhw, fel:
- Traphont ddŵr ryfeddol Pontcysyllte, o Wallace & Gromit: Vengeance Most Fowl
- Amrywiaeth o leoliadau oedd eisoes yn eiconig, gan gynnwys Amgueddfa Werin Cymru Sain Ffagan a champws Caerllion Prifysgol De Cymru, a welwyd yn ffilm boblogaidd Netflix i bobl ifanc Sex Education
- Ar y gyfres deledu chwedlonol His Dark Materials – gyda’r actor adnabyddus Lin-Manuel Miranda – gwelwyd Gerddi Llanddewi ger Caldicot a Chapel San Gofan, Sir Benfro
Mae ymchwil VisitBritain yn datgelu bod mwy na 9 o bob 10 darpar ymwelydd â’r DU yn awyddus i gynnwys lleoliadau teledu a ffilm yn eu taith. Yn ogystal, dywedodd bron 20% o bobl o’r DU ar wyliau bod ganddyn nhw ddiddordeb mewn ymweld â lleoliadau ffilmiau, rhaglenni teledu neu lenyddiaeth yng Nghymru.
Dywedodd Marco Zeraschi, perchennog Marco’s café:
“Mae Gavin a Stacey wedi llwyddo i droi Ynys y Barri yn gyrchfan ddiwylliannol i’r genedl gyfan ac mae’r hwb i dwristiaeth wedi bod yn aruthrol. Mae ymwelwyr o bob rhan o’r DU a thu hwnt yn dod i Ynys y Barri nawr i brofi’r awyrgylch gynnes a chyfeillgar a welwyd ar y rhaglen, ac i ni mae’r busnes y mae wedi’i ddenu’n anferth.
“Mae Marco’s Cafe yn un o’r llefydd eiconig y mae cefnogwyr am ei weld a diolch i’r cynnydd yn nifer yr ymwelwyr, rwyf wedi gallu cyflogi mwy o staff. Mae’r bennod olaf a’r holl sylw iddi yn y cyfryngau wedi cyflwyno Ynys y Barri i genhedlaeth newydd o gefnogwyr ac rwy’n disgwyl ymlaen at roi croeso cynnes iddyn nhw eleni.”
Dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Rebecca Evans:
“Mae set-jetio yn ffordd wych o arddangos yr amrywiaeth gyfoethog o gyrchfannau eithriadol sydd gennym yng Nghymru, o leoliadau eiconig i berlau cudd sydd wedi eu darlunio mewn ffilmiau a chyfresi teledu Cymreig a Phrydeinig poblogaidd. Does dim amheuaeth y gall lleoliad neu gyrchfan o ffilm neu gyfres deledu ennill lle arbennig yng nghalonnau gwylwyr.”
“Mae gan Gymru swyn unigryw sy’n dal dychymyg teithwyr ledled y byd, ac mae’n addas iawn mai 2025 yw ein Blwyddyn Croeso a man dechrau ein hymgyrch ‘Hwyl’, i hyrwyddo profiadau a chyrchfannau unigryw ein gwlad i ymwelwyr o bob cwr o’r byd.”
Help keep news FREE for our readers
Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle