Sefydliad Anllywodraethol o Gymru a Coldplay yn gobeithio y bydd cystadleuaeth newydd yn ysbrydoli creadigrwydd er mwyn achub morwellt y byd.

0
179

Mae Prosiect Seagrass, sef prif sefydliad cadwraeth y byd ar gyfer gwarchod dolydd morwellt, wedi cydweithio â Coldplay i lansio cystadleuaeth arbennig sy’n cynnig cyfle i gefnogwyr y band ennill tocynnau i wylio’r band yn perfformio’n fyw mewn cyngerdd!

Fel rhan o genhadaeth barhaus Prosiect Seagrass i fod yn llais byd-eang ar ran morwellt, a chodi ymwybyddiaeth o rôl hollbwysig morwellt er budd ein planed, mae’r gystadleuaeth yn annog y cyfranogwyr i greu dyluniadau llawn ysbrydoliaeth, effaith a chreadigrwydd a fydd yn hyrwyddo ac yn cyfathrebu pwysigrwydd morwellt a’r wyddoniaeth sy’n gysylltiedig â’r planhigyn. Gellir dod o hyd i fanylion llawn am themâu’r gystadleuaeth ar wefan Prosiect Seagrass. Mae Prosiect Seagrass yn obeithiol y bydd cannoedd o bobl greadigol yn cymryd rhan yn y gystadleuaeth.

Mae dolydd morwellt yn hanfodol i iechyd ein planed. Ond tan yn gymharol ddiweddar, y farn oedd bod y planhigyn braidd yn ‘ddiflas’. “Mae codi ymwybyddiaeth y byd o bwysigrwydd morwellt yn un o’r heriau mwyaf sy’n wynebu ei gadwraeth,” medd Dr Benjamin Jones, Prif Swyddog Cadwraeth Prosiect Seagrass.

Yn aml, caiff morwellt ei ystyried fel “hwyaden fach hyll” y byd cadwraeth forol, a chaiff gwaith cadwraeth byd-eang ei lesteirio gan y rhagdybiaeth nad yw morwellt mor ddiddorol a llawn bywyd â chynefinoedd morol eraill. Ond sylweddolir bellach bod morwellt yn bwysig i amrywiaeth o anifeiliaid – o’r creaduriaid di-asgwrn-cefn lleiaf i famaliaid môr llysysol mwyaf y byd – felly mae barn pobl yn prysur newid.

“Drwy’r byd, mae’r dolydd tanddaearol a gaiff eu creu gan forwellt yn hanfodol i fioamrywiaeth, gan sefydlogi ein glannau, sugno carbon a lleihau tlodi mewn cymunedau pysgota sy’n ddibynnol arnynt,” medd Dr Jones. Ond mae dolydd morwellt dan fygythiad. Mae morwellt yn diflannu ledled y byd, yn bennaf yn sgil newid defnydd tir, ansawdd dŵr gwael a gweithgareddau pobl. Trwy gymryd rhan yn y gystadleuaeth, bydd gan y cyfranogwyr siawns o weld Coldplay yn perfformio’n fyw, ond hefyd byddant yn dangos eu cefnogaeth i warchod y môr.

Dyddiad Cau’r Gystadleuaeth: Bydd y gystadleuaeth ar agor tan ddydd Sul 16 Chwefror. Bydd yr enillwyr yn cael eu dewis gan banel o feirniaid a fydd yn cynnwys gweithwyr Prosiect Seagrass, Tîm Rheoli Coldplay a beirniad annibynnol, sef yr awdur a’r artist gwobrwyol Janina Rossiter.

Bydd yr enillwyr lwcus yn cael cyfle i wylio Coldplay yn perfformio’n fyw yn Stadiwm Wembley yn Llundain yn ystod haf 2025!

Mae Prosiect Seagrass yn gwahodd pawb i gymryd rhan yn y cyfle cyffrous hwn i gyfuno creadigrwydd ac eiriolaeth amgylcheddol. I gael manylion am y gystadleuaeth a’r amodau a’r telerau llawn, ac i gymryd rhan yn y gystadleuaeth, ewch i https://www.projectseagrass.org/coldplay-ticket-competition/


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle