DIWYDIANT YNNI GLÂN CYMRU I DDOD YN ‘RYM PWERUS’ AR GYFER TWF ECONOMAIDD MEDDAI YSGRIFENNYDD GWLADOL CYMRU

0
220
Secretary of State for Wales Jo Stevens at Dragon LNG talking with Simon Ames, Managing Director at Dragon LNG and Mike Warburton, Operations Manger at Dragon LNG.

  • Mae Ysgrifennydd Gwladol Cymru yn gefnogwr brwd o ynni glân yng Ngorllewin Cymru ac mae’n gweld sut bydd y sector yn darparu swyddi yn y dyfodol.
  • Cenhadaeth twf economaidd Llywodraeth y DU yn cyflawni dros Gymru trwy fuddsoddi £26 miliwn yn y Porthladd Rhydd Celtaidd. 
  • Sir Benfro wedi’i adnabod fel ardal twf allweddol ar gyfer ynni glân.

 Mae Ysgrifennydd Gwladol Cymru, Jo Stevens, wedi dweud wrth arweinwyr y diwydiant ynni glân y byddant yn chwarae rôl hanfodol i helpu i dyfu’r economi yng Nghymru.

 Trafodaeth heddiw (30 Ionawr) gydag unigolion allweddol o’r sector yng Ngorsaf Ynni Penfro RWE oedd y drafodaeth ddiweddaraf mewn cyfres o gyfarfodydd o amgylch y bwrdd sydd wedi’u cadeirio gan Ysgrifennydd Gwladol Cymru, fel rhan o’i hymgyrch i sicrhau twf economaidd i Gymru.

 Mae Llywodraeth y DU yn gweithio gyda Llywodraeth Cymru a phartneriaid y diwydiant i ddatblygu ffermydd gwynt arnofiol ar y môr Celtaidd. Byddai hyn yn golygu adeiladu tyrbinau gwynt ar blatfformau arnofiol sy’n eu galluogi i gymryd mantais o gyfeiriad y gwynt.

Secretary of State for Wales Jo Stevens at Dragon LNG accompanied by Simon Ames, Managing Director at Dragon LNG.

 Bu i Ysgrifennydd Gwladol Cymru glywed am y cynlluniau a sut gallai ffermydd gwynt arnofiol gefnogi hyd at 5,300 o swyddi newydd a chynhyrchu hyd at £1.4 biliwn ar gyfer economi y DU.

 Mae Llywodraeth y DU wedi adnabod Sir Benfro fel ardal peilot ar gyfer datblygu gweithlu ynni glân medrus, a allai gynnwys cyllid ar gyfer mesurau wedi’u targedu, fel canolfannau hyfforddi a chyrsiau i uwchsgilio gweithwyr. 

 Bydd porthladdoedd yn hanfodol ar gyfer cefnogi ffermydd gwynt arnofiol ar y môr. Mae Llywodraeth y DU wedi cyhoeddi partneriaeth rhwng Ystad y Goron a Great British Energy, sydd â’r potensial i ddenu hyd at gwerth £60 biliwn o fuddsoddiadau preifat i borthladdoedd a llwybrau cyflenwi ynni glân.

 Mae Llywodraeth y DU hefyd wedi ymrwymo i fuddsoddi £26 miliwn yn y Porthladd Rhydd Celtaidd yn Aberdaugleddau a Phort Talbot. Bydd y Porthladd Rhydd Celtaidd yn annog twf a buddsoddiad trwy greu cymhelliannau trethi a thollau ar gyfer busnesau. 

 Meddai Jo Stevens, Ysgrifennydd Gwladol Cymru:

 “Mae fy ffocws yn glir – cyflawni Cynllun ar gyfer Newid Llywodraeth y DU a fydd yn sbarduno’r economi ac yn rhoi mwy o arian ym mhocedi pobl yng Nghymru.

“Mae gennym sector ynni glân o safon fyd-eang yn Nghymru, gyda digonedd o adnoddau naturiol a’r potensial i fod yn rym pwerus ar gyfer twf economaidd. 

“Rwyf eisiau gweld diwydiant sy’n ffynnu sy’n darparu swyddi gyda chyflogau da ac sy’n cyfrannu i’n cenhadaeth i wneud y DU yn un o gewri’r sector ynni glân erbyn 2030.”

Cynhaliwyd trafodaeth Ysgrifennydd Gwladol Cymru gydag arweinwyr y diwydiant ddydd Iau 30 Ionawr yng Ngorsaf Ynni Penfro RWE. Dyma’r un diweddaraf mewn cyfres o gyfarfodydd o amgylch y bwrdd sydd wedi’i cadeirio ganddi fel rhan o’i hymgyrch i sicrhau twf economaidd i Gymru. Mae Ms Stevens eisoes wedi cwrdd ag arweinwyr o’r diwydiannau digidol a thechnoleg, y sector gweithgynhyrchu uwch a’r diwydiant gwyddorau bywyd yng Nghymru.

 

Secretary of State for Wales Jo Stevens at Ledwood Engineering accompanied by Nick Revell, Managing Director at Ledwood Engineering

Ar ddiwedd 2024, bu i Ysgrifennydd Gwladol Cymru lansio Grŵp Ymgynghorol Twf Economaidd Cymru, i helpu i siapio ymdrechion Llywodraeth y DU i hybu twf a rhoi mwy o arian ym mhocedi’r pobl yng Nghymru. Tasg y grwp yw cyfarwyddo Strategaeth Ddiwydiannol newydd Llywodraeth y DU i hybu diwydiannau allweddol yng Nghymru a siapio blaenoriaethau Cymru ar gyfer yr Adolygiad o Wariant nesaf, y disgwylir i’r ddau gael eu cyhoeddi yn ystod Gwanwyn 2025. 

Ynghyd â siarad ag arweinwyr y diwydiant, bu i Ysgrifennydd Gwladol Cymru ymweld â Dragon LNG yn Aberdaugleddau lle dysgodd mwy am eu cynlluniau arloesol i ddatgarboneiddio diwydiannau trwm Cymru. 

Secretary of State for Wales Jo Stevens at Ledwood Engineering meeting with Albie, an apprentice at Ledwood Engineering alongside Nick Revell, Managing Director at Ledwood Engineering.

Meddai Simon Ames, Rheolwr Gyfarwyddwr Dragon LNG:

“Roedd yn anrhydedd fawr i groesawu Ysgrifennydd Gwladol Cymru i Dragon ac i arddangos y talent lleol yn y cyfleuster gwych hwn.

“Rydym yn darparu 10% o gas y DU, gan sicrhau cadernid ac amrywiaeth o ran y cyflenwad nwy sy’n dod o bob cwr o’r byd.

“Trwy’r broses o bontio i ynni gwyrdd, rydym yn gobeithio datblygu ein prosiect ar y cyd gyda RWE ar ddal CO2, ei trosi’n hylif a’i forgludo, fel bod modd darparu pŵer sydd a lefel isel o garbon i’r UK pan fydd galw amdano.

Bu i Ms Stevens ymweld â Ledwood Mechanical Engineering yn Nociau Penfro hefyd. Mae’r cwmni yn arbenigo mewn dylunio, cynhyrchu a gosod peirianwaith a strwythurau cymhleth ar gyfer y diwydiannau ynni. Wrth ymweld, siaradodd â prentisiaid, sy’n ennill sgiliau a fydd yn werthfawr yn y diwydiant ynni glân, am eu huchelgeisiau ar gyfer y dyfodol.

Meddai Rheolwr Gyfarwyddwr Ledwood Mechanical Engineering, Nick Revell:

“Mae cymaint o drafodaeth wedi bod am y potensial i economi Cymru a’r llwybr cyflenwi lleol fanteisio i’r eithaf ar y potensial o ynni gwynt ar y môr a phŵer y llanw, ond y realiti yw bod rhaid i fuddsoddwyr, datblygwyr a phartneriaid llwybrau cyflenwi fod yn hyderus y byddai’r Llywodraethau yn San Steffan a Chaerdydd yn cefnogi’r diwydiant newydd hwn.

“Mae’n hen bryd i roi’r gorau i siarad a chychwyn gwneud rhywbeth fel y gallwn dileu’r rhwystrau a symud yn ein blaenau. Rydym yn croesawu’r ymgysylltu ag Ysgrifennydd Gwladol Cymru ac edrychwn ymlaen at weithio gyda hi a Llywodraeth Cymru i helpu i wireddu hyn.”

Dywedodd Albie Elliott, prentis yn Ledwood Mechanical Engineering:

“Bydd y diwydiant ynni glân yn darparu llwybr gyrfa hirdymor gwych i brentisiaid fel fi, sydd eisiau byw a gweithio’n lleol.

“Mae’n gyfnod cyffrous iawn ac rwy’n falch i fod yn gweithio i gwmni fel Ledwood sydd wedi’i leoli yma ym Mhenfro ac sydd ar ben blaen y sector prosesu ynni byd-eang.”


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle