Ddydd Mawrth, 4 Chwefror, bydd Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru, ynghyd ag asiantaethau partner, yn cynnal ymarferiad amlasiantaeth i wirio a phrofi cynlluniau, protocolau a gweithdrefnau ymateb brys pe bai digwyddiad mawr, ar safle Rheilffordd Gwili yn Abergwili, Sir Gaerfyrddin.
Bydd llawer o gynrychiolwyr asiantaethau partner yn bresennol ac yn cymryd rhan yn yr ymarfer, gan gynnwys Heddlu Dyfed-Powys, Cyngor Sir Caerfyrddin, Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda, Ysbyty Glangwili ac Ymddiriedolaeth Brifysgol GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru.
Bydd lefelau uwch o weithgarwch yn yr ardal ac o gwmpas Ysbyty Glangwili ar y diwrnod, rhwng 8am a 6pm ond gallwch fod yn dawel eich meddwl nad oes angen i chi boeni o gwbwl am hyn.
Dywedodd Pennaeth Rhanbarth y Gorllewin, Andrew Davies:
“Mae ymarferion amlasiantaeth yn gyfleoedd hyfforddi hanfodol er mwyn sicrhau bod ein cynlluniau brys yn gadarn a’n bod ni a’n hasiantaethau partner yn barod ar gyfer unrhyw ddigwyddiad mawr posibl a allai effeithio ar ein cymunedau.
Rydym yn gobeithio na fyddwn byth mewn sefyllfa lle mae angen defnyddio’r cynlluniau hyn mewn ymateb i ddigwyddiad go iawn, ond mae’n hynod bwysig ein bod yn barod i ymateb pe bai angen. Mae ymarferion fel hyn yn rhan bwysig o’n gwaith i gadw’r cyhoedd yn ddiogel, ac rydym yn gwerthfawrogi dealltwriaeth a chydweithrediad pawb.
Rydym am sicrhau preswylwyr mai gweithgaredd hyfforddi wedi’i gynllunio yw hwn ac nid digwyddiad byw.”
Bydd trefniadau ar gyfer yr ymarfer yn dechrau ddydd Llun 3 Chwefror yn Rheilffordd Gwili, a gofynnir i’r cyhoedd osgoi’r ardal tan ddydd Gwener. Ni fydd mynediad cyhoeddus i’r safle yn ystod y cyfnod hwn.
Diolch i chi am eich dealltwriaeth a’ch cydweithrediad wrth i ni weithio i wella ein gallu i ymateb i sefyllfaoedd brys.
Os oes gennych unrhyw ymholiadau, cysylltwch â Swyddfa’r Wasg – pressofficer@mawwfrs.gov.uk
Help keep news FREE for our readers
Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle