Heddlu Dyfed-Powys yn cynnig cyngor yn ystod twrnamaint rygbi’r Chwe Gwlad mewn ymgais i helpu i ddileu trais domestig

0
237
Six Nations domestic abuse campaign @cc DyfedPowysPolice

Mae swyddogion Heddlu Dyfed-Powys wedi ymweld â dros 40 o fusnesau yn Llanelli yn ystod ail benwythnos twrnamaint rygbi’r Chwe Gwlad mewn ymgais i helpu i ddileu trais domestig.

Y gwir trist yw bod twrnameintiau chwaraeon mawr yn gallu golygu perygl uwch o gam-drin domestig i nifer o bobl yn y DU. Er bod swyddogion yn gwybod nad rygbi yw achos uniongyrchol cam-drin domestig, mae’r ymddygiad o gwmpas gemau, megis yfed mwy, yn gallu sbarduno’r cam-drin.

Ers i’r twrnamaint gychwyn ddydd Gwener 31 Ionawr, mae swyddogion wedi bod yn cymryd ymagwedd ragweithiol o ran ymgysylltu â thafarndai, gwestai, siopau, a siopau trin gwallt y dref. Maen nhw wedi bod yn tynnu sylw staff at arwyddion cam-drin domestig a sut i nodi y gallai rhywun maen nhw’n siarad â nhw fod yn ddioddefydd posibl. Mae swyddogion hefyd wedi bod yn rhoi arweiniad ynghylch sut i wneud cyfeiriadau, ac maen nhw wedi trafod y cymorth sydd ar gael.

Mae’r ymgyrch, sy’n para mis, yn cael ei chynnal ar draws Sir Gaerfyrddin, a bydd swyddogion yn cynnal mwy o batrolau bob wythnos yng Nghaerfyrddin, Rhydaman a Llanelli. Byddant hefyd yn cynnal ymweliadau lles, gan ymweld â phobl sydd wedi dioddef cam-drin domestig i gynnig tawelwch meddwl a chyngor atal trosedd.

Yr Arolygydd Tom Coppock, sy’n arwain yr ymgyrch ochr yn ochr â’r Rhingyll Dros Dro Megan Lakin: Diben yr ymgyrch hon yw atgyfnerthu blaenoriaeth Heddlu Dyfed-Powys o ran gweithio tuag at ddileu cam-drin domestig, stelcio ac aflonyddu, a sicrhau bod troseddwyr yn cael eu dwyn i gyfiawnder.

Mae’r ymagwedd ataliol yn hanfodol ar gyfer sicrhau ein bod ni’n gwneud popeth o fewn ein gallu i helpu pobl sy’n dioddef cam-drin.

Dywedodd y Rhingyll Dros Dro Megan Lakin: Mae swyddogion eisoes wedi derbyn adborth ardderchog gan y busnesau rydyn ni wedi siarad â nhw, ac maen nhw wedi’u plesio gan lefel yr ymgysylltiad. Rydyn ni’n ddiolchgar am y gefnogaeth mae ein busnesau lleol yn darparu i weithio gyda ni i gadw ein cymuned yn fwy diogel.

Bydd yr ymgyrch hefyd yn gweld swyddogion trwyddedu o Gyngor Sir Gaerfyrddin yn cynnal gwiriadau trwyddedu ac yn tynnu sylw at y cynllun ‘Gofynnwch am Angela’ mewn tafarndai a barrau. Mae’r cynllun yn helpu unrhyw un sy’n teimlo’n agored i niwed ar noson allan i gael y cymorth sydd angen arnynt drwy ofyn i aelod staff am gael siarad gydag Angela, â’r nod o geisio cymorth mewn ffordd briodol a chynnil. Gallai’r aelod staff alw swyddog diogelwch, arwain yr unigolyn i fan diogel, neu ei helpu i adael yr eiddo heb i neb sylwi.

Anogir y cyhoedd hefyd i adrodd am unrhyw ddigwyddiadau pellach fel bod modd cymryd y camau priodol yn erbyn troseddwyr mewn modd amserol.

Os oes angen adrodd am gam-drin domestig, stelcio neu aflonyddu arnoch, cewch gysylltu â Heddlu Dyfed-Powys drwy un o’r dulliau canlynol:

| https://bit.ly/HDPCysylltuArLein

| 101@dyfed-powys.police.uk

| Danfon neges uniongyrchol i ni ar y cyfryngau cymdeithasol

| 101

Os ydych chi’n fyddar neu’n drwm eich clyw, neu os oes gennych nam ar eich lleferydd, anfonwch neges destun at y rhif difrys, sef 07811 311 908

Mewn argyfwng, galwch 999 bob amser.

*Os ydych chi’n teimlo bod angen cymorth arnoch i gysylltu â’r heddlu, mae yna sefydliadau sy’n gallu’ch helpu. Cliciwch yma i ddod o hyd iddynt, neu chwiliwch ar-lein ar gyfer Byw Heb Ofn, Cymorth i Fenywod, neu’r Llinell Gymorth Genedlaethol Stelcio – mae gan bob un o’r rhain linellau cymorth am ddim.


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle

LEAVE A REPLY

Please enter your comment!
Please enter your name here