Hoffai Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda longyfarch Practisau Deintyddol lleol – Deintyddfa Aman a Deintyddfa Aberteifi, am ennill Gwobr Aur Fframwaith a Chynllun Gwobrwyo Gofal Sylfaenol Gwyrddach Cymru. Mae’r gydnabyddiaeth fawreddog hon yn amlygu eu hymrwymiad rhagorol i gynaliadwyedd tra’n darparu gofal cleifion o ansawdd uchel.
Mae Deintyddfa Aman, a leolir yn Rhydaman a Deintyddfa Aberteifi, sydd wedi’i leoli yng Nghanolfan Gofal Integredig Aberteifi wedi bod yn gwasanaethu’r Gymuned leol gyda gofal deintyddol ers blynyddoedd, tra’n dangos ymrwymiad cryf i gynaliadwyedd.
Mae’r ddau bractis teuluol yn cynnig ystod eang o driniaethau o archwiliadau deintyddol arferol a glanhau proffesiynol i weithdrefnau deintyddiaeth gosmetig i wella iechyd ac ymddangosiad deintyddol.
Mae Fframwaith a Chynllun Gwobrwyo Gofal Sylfaenol Gwyrddach Cymru yn cefnogi timau gofal sylfaenol i gymryd camau gwirfoddol i wella eu cynaliadwyedd amgylcheddol. Er mwyn cyflawni ‘Gwobr Aur’ sef eu cydnabyddiaeth uchaf, rhaid i bractisau gwblhau 24 o gamau gweithredu penodol o’r fframwaith, sy’n cynnwys dros 50 o fesurau sy’n cyd-fynd â Chynllun Cyflawni Strategol Datgarboneiddio GIG Cymru. Mae’r camau gweithredu hyn yn rhychwantu meysydd fel rheoli gwastraff, caffael, ac arferion gwaith cynaliadwy, gan rymuso timau i greu effaith gadarnhaol ar gyfer yr amgylchedd heb fod angen adnoddau sylweddol.
Dywedodd Jill Paterson, Cyfarwyddwr Gofal Sylfaenol, Cymunedol a Gofal Hirdymor, “Rwyf am estyn fy llongyfarchiadau gwresog i Deintyddfa Aman a Deintyddfa Aberteifi am ennill y Wobr Aur. Mae eu hymroddiad i gynaliadwyedd a gofal cleifion yn ysbrydoledig. Maen nhw wir yn dangos sut y gall Gofal Sylfaenol arwain y ffordd wrth greu dyfodol gwyrddach ac iachach i Gymru.”
Mae Fframwaith a Chynllun Gwobrwyo Gofal Sylfaenol Gwyrddach Cymru yn tanlinellu ymrwymiad GIG Cymru i leihau ei ôl troed carbon ac yn amlygu’r rôl hanfodol y gall gofal sylfaenol ei chwarae wrth greu dyfodol iachach, mwy cynaliadwy.
Help keep news FREE for our readers
Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle