Cyllid gwerth £5.25 miliwn gan Lywodraeth Cymru i helpu gofalwyr di-dâl

0
115
Care

Mae’r Gweinidog Plant a Gofal Cymdeithasol, Dawn Bowden wedi dweud y bydd gofalwyr di-dâl yng Nghymru yn parhau i gael cymorth ychwanegol i’w galluogi i gymryd seibiannau haeddiannol o’u rôl ofalu.

Mae’r Gweinidog hefyd wedi cadarnhau y bydd cyllid ar gael i barhau i helpu gofalwyr ar incwm isel i brynu eitemau hanfodol.

Bydd y Cynllun Seibiannau Byr a’r Gronfa Cymorth i Ofalwyr yn cael cyllid ar gyfer 2025/26 gwerth £3.5 miliwn a £1.75 miliwn yn y drefn honno gan Lywodraeth Cymru.

Mae’r cynlluniau hyn yn ychwanegol at y dyletswyddau sydd gan awdurdodau lleol i ddarparu cymorth priodol i ofalwyr.
Mae’r Cynllun Seibiannau Byr ar y trywydd iawn i gyflawni’r targed o 30,000 o gyfleoedd seibiannau byr ychwanegol erbyn mis Mawrth 2025. Bydd estyn y cynllun hwn yn golygu y bydd modd parhau i helpu gofalwyr di-dâl yng Nghymru i gymryd seibiannau o’u cyfrifoldebau er mwyn cynnal eu llesiant.

Gellir defnyddio’r arian, er enghraifft, ar gyfer gwyliau byr, diwrnodau gweithgareddau a mynd i’r sinema. Gall hefyd helpu gofalwyr i ddilyn hobi neu gymryd rhan mewn chwaraeon.

Mae canfyddiadau diweddar yn awgrymu mai dim ond 14% o’r gofalwyr sy’n oedolion sydd wedi elwa ar y cynllun a oedd hefyd wedi cael seibiant o rywle arall yn ystod y 12 mis diwethaf, sy’n cadarnhau’r rôl hanfodol y mae’n ei chwarae. Mae 80% o’r rhai sy’n elwa ar y cynllun yn darparu mwy na 50 awr o ofal yr wythnos.

Mae’r Gronfa Cymorth i Ofalwyr yn rhoi cymorth ariannol brys i ofalwyr di-dâl ar incwm isel o bob oed i brynu eitemau hanfodol. Gellid ei ddefnyddio i brynu bwyd, eitemau ar gyfer y cartref neu i dalu biliau cyfleustodau. Yn ogystal, mae’r gronfa hefyd yn darparu gwybodaeth i helpu pobl i reoli arian a sicrhau eu bod yn hawlio’r holl fudd-daliadau a thaliadau y mae ganddynt hawl iddynt.

Nid oedd bron i hanner y gofalwyr di-dâl sydd wedi elwa ar y cynlluniau yn ystod y tair blynedd diwethaf yn hysbys i wasanaethau yn flaenorol. Mae’r cynlluniau felly’n dangos eu gwerth ychwanegol sylweddol fel ffordd o gael gafael ar fathau eraill o gymorth.

Dywedodd y Gweinidog Plant a Gofal Cymdeithasol, Dawn Bowden: “Mae gofalwyr di-dâl yn chwarae rhan hanfodol wrth roi gofal i aelodau o’u teulu a’u ffrindiau.

“Rwy’n falch iawn ein bod yn rhoi cyllid eleni i helpu mwy o ofalwyr di-dâl i gymryd seibiannau byr gan fod tystiolaeth dda y gallan nhw gael effaith bositif ar lesiant.

“Rydyn ni hefyd yn gwybod bod llawer o ofalwyr di-dâl yn wynebu pwysau ariannol oherwydd eu rôl ofalu a bydd y Gronfa Cymorth i Ofalwyr yn parhau i roi cymorth ychwanegol hanfodol i ofalwyr sydd ar incwm isel.”

Dywedodd Kate Cubbage, Cyfarwyddwr Ymddiriedolaeth Gofalwyr Cymru: “Rydyn ni wedi clywed gan filoedd o ofalwyr di-dâl bod y Cynllun Seibiannau Byr wedi’u helpu nhw i gael seibiant o ofalu am y tro cyntaf erioed a bod grantiau drwy’r Gronfa Cymorth i Ofalwyr wedi bod yn hanfodol i brynu bwyd a chynhesu eu cartrefi.

“Mae angen y rhaglenni hyn nawr yn fwy nag erioed wrth i gostau godi ac wrth i’n partneriaid ym maes iechyd a gofal cymdeithasol wynebu pwysau cynyddol. Mae ein cydweithwyr mewn gwasanaethau statudol yn dweud wrthyn ni fod buddsoddiadau cymedrol yn y rhaglenni trawsnewidiol hyn yn gwneud gwahaniaeth i helpu gofalwyr â’u rôl ofalu hanfodol ac atal yr angen am ymyrraeth bellach gan wasanaethau acíwt.”

“Fel y Corff Cydgysylltu Cenedlaethol ar gyfer y Cynllun Seibiannau Byr a’r sefydliad sy’n arwain y gwaith o ddarparu’r Gronfa Cymorth i Ofalwyr, mae’r Ymddiriedolaeth Gofalwyr yn croesawu ymrwymiad Llywodraeth Cymru i ddiogelu’r rhaglenni hanfodol hyn gyda sicrwydd o gyllid am flwyddyn arall.

“Bydd y cyllid hwn yn galluogi sefydliadau gofalwyr lleol a phartneriaid cyflawni i helpu miloedd yn fwy o ofalwyr di-dâl drwy roi seibiant mawr ei angen iddyn nhw o’u rôl ofalu gan hefyd eu diogelu rhag effeithiau llymaf tlodi hyd 2026.”


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle

LEAVE A REPLY

Please enter your comment!
Please enter your name here