Cymerodd staff o siop EE yn Aberystwyth ran yn Movember a chodwyd £600 ar gyfer yr Adran Damweiniau ac Achosion Brys yn Ysbyty Bronglais.
Dywedodd Fergus Morris, Rheolwr Siop EE Aberystwyth: “Penderfynais i a’r tîm godi arian i adran damweiniau ac achosion brys Bronglais drwy gymryd rhan yn Movember sy’n golygu peidio ag eillio ar gyfer mis Tachwedd.
“Mae gen i ac aelodau eraill o’r tîm anwyliaid sydd wedi elwa o wasanaeth rhagorol yn yr adran damweiniau ac achosion brys. Rydym yn ffodus i gael y cyfleuster hwn gerllaw ac roeddem am roi rhywbeth yn ôl.

“Aeth ein codi arian yn dda. Roeddwn i’n teimlo fel actor o’r 80au, doedd fy merch ddim yn cymeradwyo! Diolch i bawb a gyfrannodd ac i staff Ysbyty Bronglais.”
Dywedodd Nicola Llewellyn, Pennaeth Elusennau Iechyd Hywel Dda, elusen swyddogol Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda: “Hoffem ddiolch yn fawr iawn i staff siop EE yn Aberystwyth am godi arian ar gyfer ein helusen.
“Mae cefnogaeth ein cymunedau lleol yn ein galluogi i ddarparu gwasanaethau y tu hwnt i’r hyn y gall y GIG ei ddarparu yn nhair sir Hywel Dda ac rydym yn hynod ddiolchgar am bob rhodd a dderbyniwn.”
I gael rhagor o fanylion am elusen y GIG a sut y gallwch chi helpu i gefnogi cleifion a staff lleol y GIG, ewch i www.hywelddahealthcharities.org.uk
Help keep news FREE for our readers
Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle