
Wrth i Wythnos Prentisiaethau Cymru fynd rhagddi, mae Gyrfa Cymru yn tynnu sylw at y cymorth sydd ar gael i helpu pobl i archwilio’r gwahanol gyfleoedd sydd ar gael iddynt.
Mae prentisiaethau yn un o nifer o lwybrau y gall unigolion eu cymryd i ddatblygu sgiliau, ennill cymwysterau, a meithrin profiad yn y gweithle.
Maent yn cynnig cyfle i bobl o bob oed ennill arian wrth ddysgu, gan ennill cymwysterau cydnabyddedig a phrofiad ymarferol gwerthfawr.
Yn 2022-2023, gwelodd Cymru ymgysylltu sylweddol â rhaglenni prentisiaeth. Yn ystod y flwyddyn honno, cychwynnwyd 22,880 o raglenni dysgu prentisiaeth yng Nghymru. Roedd hyn yn gynnydd o 14% ers y flwyddyn flaenorol (2021-2022). (Daw’r holl ddata o Dangosfwrdd Dysgu Prentisiaethau Medr

Roedd 25% o’r rhain yn ne orllewin Cymru, lle cychwynnwyd ar 5,650 o brentisiaethau. Cychwynnodd 1,365 o bobl brentisiaethau yn ystod y flwyddyn yn Sir Gaerfyrddin yn unig.
Gyda chyfleoedd mewn 23 o sectorau amrywiol, o ddiwydiannau creadigol i sgiliau gwyrdd, mae rhywbeth at ddant pawb. Y pum rhaglen dysgu prentisiaeth orau yn yng Nghymru yn 2022-2023 oedd:
- Gofal Iechyd a Gwasanaethau Cyhoeddus
- Rheolaeth a Phroffesiynol
- Adeiladu
- Gweinyddu Busnes
- Peirianneg
Nid ar gyfer pobl ifanc yn unig y mae prentisiaethau yn addas. Pobl dros 19 oed oedd yn dilyn hyfforddiant dros 70% o brentisiaethau yng Nghymru yn 2022-2023. Pobl 40 oed ac yn hŷn oedd yn dilyn hyfforddiant dros 4,500 (neu 20%) o brentisiaethau a ddechreuodd yn 2022-2023.
Dywedodd Nikki Lawrence, Prif Weithredwr Gyrfa Cymru: “Mae Wythnos Prentisiaethau Cymru yn gyfle gwych i ddathlu prentisiaethau, a’r gwerth y maent yn ei gynnig i ddysgwyr, cyflogwyr, ac economi ehangach Cymru.
“Mae prentisiaethau’n darparu llwybr i bobl ennill cymwysterau wrth weithio ac ennill cyflog, a gallant fod yn llwybr gwerthfawr i’r rhai sydd am ddatblygu eu sgiliau.
“Gall ein cynghorwyr gyrfa ddarparu cymorth wedi’i deilwra i bobl o bob oed i archwilio prentisiaethau, yn ogystal â’r ystod lawn o opsiynau amgen sydd ar gael iddynt.”
I’r rhai sydd â diddordeb mewn archwilio cyfleoedd prentisiaeth yng Nghymru, mae adnoddau ar gael, gan gynnwys yr adnodd chwilio am brentisiaethau ar wefan Gyrfa Cymru, i’w cynorthwyo i ddod o hyd i swyddi a gwneud cais amdanynt.
Gallwch ddarllen mwy am y gwasanaethau am ddim a ddarperir gan Gyrfa Cymru and Cymru’n Gweithio, ffoniwch 0800 028 4844 neu e-bostiwch post@gyrfacymru.llyw.cymru.
Help keep news FREE for our readers
Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle