Mae hanner marathon yn brawf o ffitrwydd corfforol a dygnwch, yn ogystal â chadernid meddyliol. Mae’r Diffoddwr Tân Mel Herbert, o Orsaf Dân Pont-iets, nid yn unig yn paratoi i redeg Hanner Marathon Mawr Cymru, ond mae hi’n paratoi i wneud hynny mewn cit diffodd tân llawn.
Ar hyn o bryd mae Mel yn hyfforddi i gwblhau’r ras 13 milltir ddydd Sul, 16 Mawrth, gyda’r llwybr yn dechrau ac yn gorffen ym Mharc Gwledig Pen-bre, ac yn cynnwys Porth Tywyn. Bydd hi’n gwisgo trowsus a thiwnig diffodd tân a set offer anadlu – sydd, ar ben ei hun, yn pwyso tua 13 pwys – yn ystod y ras i gyd. Fel rhan o’i hyfforddiant, mae Mel wedi bod yn rhedeg mewn cit diffodd tân a fest gyda phwysau ynddi i efelychu pwysau’r offer anadlu ac mae hi hefyd wedi cymryd rhan yn Ras 10K Llanelli.
Mae rhedeg mewn cit diffodd tân llawn yn her aruthrol gan ei fod yn drwm, yn gyfyng ac wedi’i wneud o ddeunyddiau ananadladwy. Fodd bynnag, mae Mel yn benderfynol o gwblhau’r ras i godi ymwybyddiaeth ac arian i Elusen y Diffoddwyr Tân, sy’n cynnig cymorth gydol oes i les meddyliol, corfforol a chymdeithasol diffoddwyr tân sydd wedi ymddeol, eu teuluoedd, a phersonél eraill y Gwasanaeth Tân ac Achub.
Wrth siarad am ei her, dywedodd Mel:
“Rydw i wedi cwblhau dau hanner marathon o’r blaen, ac roeddwn i eisiau herio fy hun ymhellach, a dyna pam rydw i wedi penderfynu rhedeg Hanner Marathon Fawr Cymru mewn cit diffodd tân llawn.
Gan fy mod yn rhan o’r Gwasanaeth Tân ac Achub, rwyf wedi gallu gweld y gwahaniaeth y mae Elusen y Diffoddwyr Tân yn ei wneud trwy’r gefnogaeth y maen nhw’n ei gynnig, a dyna pam mai nhw yw fy elusen ddewisol.
Ar ôl cwrdd ag Angylion Tân yr Antartig yn ddiweddar mewn digwyddiad Menywod yn y Gwasanaeth Tân, rwyf hefyd wedi cael fy ysbrydoli gan yr heriau a’r teithiau y maen nhw wedi cymryd rhan ynddyn nhw.”
Bydd Mel yn cael ei chefnogi gan ei chyd-aelodau o griw Gorsaf Dân Pont-iets, a fydd yno gyda’r injan dân ac yn rhannu gwybodaeth am ddiogelwch yn y cartref tra’n ei hannog yn ei blaen.
Gallwch gefnogi Mel a’r Elusen Diffoddwyr Tân trwy gyfrannu at ei thudalen JustGiving
Gwneud gwahaniaeth fel Diffoddwr Tân Ar Alwad
Yn awyddus i wneud gwahaniaeth yn ei chymuned yn dilyn trasiedi deuluol, cafodd Mel ei hysbrydoli i fynd i Ddiwrnod Blasu i Ddiffoddwyr Tân, digwyddiad a gynhelir yn rheolaidd gan y Gwasanaeth Tân ac Achub.
Mae Mel bellach yn Ddiffoddwr Tân Ar Alwad yng Ngorsaf Dân Pont-iets, sy’n golygu ei bod yn cael ei hysbysu am alwadau brys trwy ddyfais alw bersonol tra ar ddyletswydd.
Am ei gwaith fel Diffoddwr Tân Ar Alwad, dywedodd Mel:
“Er fy mod yn dal yn fy mlwyddyn gyntaf fel Diffoddwr Tân Ar Alwad, rwy’n mwynhau fy rôl yn fawr.
Rwy’n mwynhau’r cynnwrf o ymateb i ddigwyddiad a gweld fy mod yn gwneud gwahaniaeth yn fy nghymuned ac i bobl mewn angen. Rwyf hefyd wedi mwynhau’r hyfforddiant sy’n dod fel rhan o’r rôl. Yn ddiweddar fe wnes i gwblhau fy hyfforddiant ar gyfer ymateb i ataliad ar y galon, a fydd yn gwella gallu’r Orsaf Dân i ymateb i sefyllfaoedd.
Mae’r canfyddiad hen ffasiwn yn dal i fodoli, sef na all menywod fod yn Ddiffoddwyr Tân, ond rwy’n brawf y gall menywod ddod â chryfder a safbwyntiau amrywiol i broffesiwn sy’n elwa o gynwysoldeb a gwaith tîm.
I unrhyw un sy’n ystyried dod yn Ddiffoddwr Tân Ar Alwad, byddwn yn eu hannog i fynd amdani – dyma’r peth gorau dwi wedi ei wneud.”
Mae 75% o Orsafoedd Tân ac Achub Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru yn cael eu criwio’n gyfan gwbl gan Ddiffoddwyr Tân Ar Alwad.
Fel rôl y System Ddyletswydd Amser Cyflawn, mae Diffoddwyr Tân Ar Alwad yn ymateb i danau a digwyddiadau gwasanaeth arbennig fel gwrthdrawiadau ar y ffordd, argyfyngau cemegol, achub anifeiliaid, llifogydd a mwy. Mae’n ofynnol iddynt hefyd hysbysu ac addysgu eu cymunedau lleol a chynnal Archwiliadau Diogelwch Tân yn y Cartref yng nghartrefi pobl.
Am fwy o wybodaeth am sut i ddod yn Ddiffoddwr Tân Ar Alwad, ewch i wefan y Gwasanaeth.
Help keep news FREE for our readers
Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle