Mae Partneriaeth Diogelwch Fferm Cymru yn falch o gyhoeddi llwyddiant Bob y Ci!
Masgot Partneriaeth Diogelwch Fferm Cymru yw Bob, y Ci Defaid Cymreig, ac ar y cyd â chreu Bob, mae’r bartneriaeth sy’n cael ei harwain gan Cyswllt Ffermio wedi cyhoeddi 2 lyfr plant dwyieithog wedi’u dylunio i hybu ymwybyddiaeth o ddiogelwch ar y fferm ymhlith plant ifanc Cymru. Yn ogystal â’r llyfrau, mae’r Welsh Whisperer wedi ymweld â dros 20 o ysgolion ledled Cymru i ennyn diddordeb plant mewn profiadau dysgu rhyngweithiol ynglŷn ag aros yn ddiogel ar y fferm, ac yn canu ei gân ‘Diolch Byth am Bob’. Os nad oedd hynny’n ddigon mae’r llyfrau hefyd wedi eu troi’n gartwnau animeiddiedig sydd ar gael ar YouTube!
Mae’r ddau lyfr, Diolch Byth am Bob a Diolch Byth am Bob..eto, ar gael yn Gymraeg a Saesneg, gan sicrhau hygyrchedd i holl blant Cymru. Mae’r llyfrau’n cynnwys straeon difyr a darluniau lliwgar sy’n addysgu plant am beryglon posibl ar y fferm, megis peiriannau, da byw, a chemegau, mewn ffordd sy’n llawn hwyl ac yn briodol i’w hoed.
“Rydym wedi ymrwymo i addysgu’r genhedlaeth nesaf am bwysigrwydd diogelwch ar y fferm,” meddai Alun Elidyr, sydd yn adnabyddus ar y teledu yng Nghymru a Llysgennad Partneriaeth Diogelwch Fferm. “Trwy ymgysylltu â phlant yn ifanc, gallwn feithrin arferion diogelwch gydol oes a helpu i leihau nifer y damweiniau sy’n gysylltiedig â’r fferm.”
Mae ymdrechion Partneriaeth Diogelwch Fferm Cymru wedi cael eu cydnabod a’u canmol yn eang gan addysgwyr, rhieni, a’r gymuned amaeth. Mae’r llyfrau dwyieithog wedi’u dosbarthu i ysgolion ledled Cymru ac maent hefyd ar gael ar wefan Cyswllt Ffermio. Mae’r ymweliadau ag ysgolion wedi’u croesawu â brwdfrydedd gan fyfyrwyr ac athrawon fel ei gilydd, gyda llawer o ysgolion yn gofyn am ail ymweliadau.
“Mae gwaith Partneriaeth Diogelwch Fferm Cymru yn hanfodol i hybu ymwybyddiaeth o ddiogelwch ar y fferm ymhlith plant ifanc,” meddai Rhian Lloyd, Ysgol T Llew Jones, Ceredigion. “Mae’r llyfrau dwyieithog a’r ymweliadau ag ysgolion yn adnoddau gwerthfawr a fydd yn helpu i gadw plant yn ddiogel ar ffermydd.”
Mae Partneriaeth Diogelwch Fferm Cymru wedi ymrwymo i barhau â’i hymdrechion i hybu ymwybyddiaeth o ddiogelwch ar y fferm yng Nghymru. Mae’r Bartneriaeth yn bwriadu ehangu ei rhaglen ymweliadau ag ysgolion yn y flwyddyn i ddod ac mae’n datblygu adnoddau ychwanegol i gefnogi addysg yn ymwneud â diogelwch ar y fferm.
Ynglŷn â Phartneriaeth Diogelwch Fferm Cymru
Mae Partneriaeth Diogelwch Fferm Cymru yn sefydliad cydweithredol sy’n ymroddedig i hybu ymwybyddiaeth am ddiogelwch ar y fferm a lleihau nifer y damweiniau sy’n gysylltiedig â ffermydd yng Nghymru. Mae’r Bartneriaeth yn gweithio gyda ffermwyr, addysgwyr a rhanddeiliaid eraill i ddatblygu a rhoi mentrau diogelwch ar y fferm effeithiol ar waith.
Help keep news FREE for our readers
Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle