Cadarnhau cynnydd sylweddol mewn cyllid – y bennod nesaf i sector cyhoeddi Cymru

1
174

Bydd sector cyhoeddi Cymru yn gweld cynnydd sylweddol yng nghyllid Llywodraeth Cymru o’i gymharu â’r llynedd, gan ddod â chyllid cyffredinol y sector ar gyfer 2025 – 2026 yn ôl yn unol â lefelau 2023 – 2024.

Heddiw, mae Llywodraeth Cymru wedi datgelu bod £272,000 ychwanegol ar gael i’r sector cyhoeddi drwy Gyngor Llyfrau Cymru yn ei Gyllideb Derfynol.

Wedi’i gyhoeddi yr wythnos diwethaf a chan gynnwys codiad ychwanegol ar gyfer y sectorau celfyddydau a diwylliant ehangach, mae’r dyraniad cyllid newydd ar gyfer y sector cyhoeddi yn ychwanegol at y cynnydd a gyhoeddwyd eisoes yn y gyllideb ddrafft ddiweddar ar gyfer 2025 – 2026, gan ddod â chyfanswm y cynnydd ar gyfer y flwyddyn nesaf i £392,000.

Bydd y cyllid hwn yn cael ei sianelu drwy Gyngor Llyfrau Cymru fel corff hyd braich a fydd yn ei ddosbarthu i’r sector cyhoeddi.

Mae Llywodraeth Cymru hefyd yn darparu cyllid ychwanegol i’r Cyngor Llyfrau yn rheolaidd i hwyluso presenoldeb Cymru i gyhoeddwyr mewn digwyddiadau rhyngwladol mawr fel Frankfurt, lle mynychodd 18 o gyhoeddwyr Cymreig y llynedd i hyrwyddo eu gwaith i gynulleidfa fyd-eang, ac yn Ffair Lyfrau Llundain hefyd.

Mae’r Cyngor Llyfrau hefyd wedi cael arian Llywodraeth Cymru am ei Gronfa Cynulleidfaoedd Newydd, drwy Cymru Greadigol. Yn ystod y tair blynedd diwethaf mae £1.5miliwn wedi cefnogi dros 100 o brosiectau, creu 117 o swyddi newydd a chomisiynu dros 540 darn o waith gyda’r nod o gynyddu amrywiaeth ar draws y sector.

Mae’r cymorth hwn wedi’i gyfeirio at amrywiaeth o ffynonellau cyhoeddi, gan gynnwys: Broken Sleep Books ar gyfer gŵyl lenyddol; ‘Writing Back Home’, detholiad o lythyrau a gyfeirir at famwlad yr awdur sef Syria; gwefan newyddion Nation Cymru i feithrin talent greadigol; a’r cylchgrawn hanes Hanes Byw i ddatblygu awduron yn eu meysydd ymchwil.

Dywedodd y Gweinidog Diwylliant a Sgiliau, Jack Sargeant:

“Mae’r cadarnhad hwn o gyllid sylweddol yn dangos pa mor ddifrifol ydym ni am gefnogi sector cyhoeddi Cymru fel sector creadigol sy’n cael blaenoriaeth.

“Er gwaethaf gwychder parhaus y sector creadigol, rwy’n ymwybodol iawn o’r heriau sy’n cael eu hwynebu hefyd, ac rwy’n croesawu’r berthynas gref ac adeiladol sydd gan Lywodraeth Cymru â’r Cyngor Llyfrau wrth inni geisio ysgrifennu pennod newydd gadarnhaol i’r sector cyhoeddi yng Nghymru. Heb os, bydd ein Cyllideb Derfynol yn dod â newyddion da i’r sector ehangach ac mae’n gam cadarnhaol ymlaen y gallwn  adeiladu arno gyda’n gilydd.”


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle

1 COMMENT

  1. Using normanwenn-skiphire.co.uk,you can locate the most dependable and reasonably priced skip rental service in your area. Put an end to inefficiency and welcome ease.

LEAVE A REPLY

Please enter your comment!
Please enter your name here