
Pharc Cenedlaethol Arfordir Penfro yw’r union le i deuluoedd sy’n chwilio am gyffro yn ystod hanner tymor mis Chwefror. O helfeydd trysor gwefreiddiol i weithgareddau creadigol ar themâu’r ddraig goch, bydd ymwelwyr yn gallu mwynhau amrywiaeth o brofiadau bythgofiadwy yng Nghastell a Melin Heli Caeriw, Pentref Oes Haearn Castell Henllys, ac Oriel y Parc, Canolfan Ddarganfod y Parc Cenedlaethol.
Camwch i fyd herwyr ac antur yng Nghastell Caeriw gyda’r atyniad newydd Llwybr Trysor Robin Hood yn rhedeg o ddydd Sadwrn 15 Chwefror i ddydd Sul 2 Mawrth. Gyda help ffôn clyfar, bydd angen i archwilwyr ifanc ddod o hyd i allweddi cudd cyn i Siryf Nottingham cael gafael arnynt – a bydd llwyddiant yn arwain at wobr.
I’r rhai hynny sy’n barod i godi arfau, mae Criw y Forwyn Marian yn casglu’r dewr ynghyd i roi cynnig ar ymladd cleddyfau, saethyddiaeth a goroesi yn y gwyllt. Cynhelir sesiynau rhad ac am ddim ar 16, 19, 23 a 26 Chwefror am 11am, 12 hanner dydd, a 2pm.
Gall ymwelwyr hefyd brofi Cwestau Storymaster: Castell Antur – sioe ryngweithiol i’r teulu cyfan sy’n cael ei harwain gan yr awdur trochi poblogaidd Oliver McNeil ac sy’n cynnwys llais chwedlonol Tom Baker. Cynhelir y sioeau ar 24, 25, 27 a 28 Chwefror am 1pm. Pris y tocynnau fydd £6 a chynghorir eich bod yn archebu lle.
Ym Mhentref Oes Haearn Castell Henllys, bydd sesiynau Profwch yr Oes Haearn (10am-3pm) yn rhoi cyfle i ymwelwyr deithio’n ôl dros 2,000 o flynyddoedd ac ymgolli yng ngolygfeydd, synau a sgiliau’r gorffennol. Bydd y sesiynau hyn yn cael eu cynnal rhwng dydd Mercher 19 Chwefror a dydd Sul 2 Mawrth. Byddant yn cynnwys crefftwyr medrus yn arddangos technegau hynafol, ynghyd â chyfleoedd i ymwelwyr roi cynnig ar grefftau traddodiadol a chael profiad ymarferol o sgiliau’r Oes Haearn. Gall y rhai sy’n teimlo’n anturus brofi eu sgil gyda ffon dafl, a bydd teithiau tywys dyddiol am hanner dydd yn rhoi golwg dyfnach i fyd hynod ddiddorol y Celtiaid.

Wrth i ddigwyddiad trawiadol Oriel y Parc, sef Parêd y Ddraig Goch ar Ddydd Gŵyl Dewi, agosáu, bydd fflam creadigrwydd yn llosgi’n llachar yng Nghanolfan Ddarganfod y Parc Cenedlaethol gydag amrywiaeth o weithgareddau ar themâu’r ddraig goch. Yn y cyfnod cyn y dathliadau, gall ymwelwyr ddilyn taith draig fach wrth iddi gychwyn ar antur o amgylch dinas leiaf Prydain, gyda diweddariadau’n cael eu rhannu’n rheolaidd ar dudalen Facebook Oriel y Parc.
I’r rhai hynny sy’n awyddus i ymuno â’r helfa, bydd Chwiliwch am y Ddraig Fach Goll yn cael ei chynnal rhwng dydd Sadwrn 22 Chwefror a dydd Sul 2 Mawrth, gan wahodd pobl ifanc i ddatrys y dirgelwch, darganfod cliwiau, ac ailuno’r ddraig fach â’i mam.
Gall artistiaid y dyfodol hefyd fod yn greadigol gyda Gwnewch ac Ewch: Penwisg y Ddraig o ddydd Sadwrn 22 i ddydd Gwener 28 Chwefror, a gall y rhai hynny sydd ag ysbryd o antur bennu eu llwybr eu hunain drwy ddylunio map trysor personol ar 26 Chwefror.
Penllanw’r dathliadau fydd ar 1 Mawrth am 2pm pan gynhelir Parêd y Ddraig Goch ar Ddydd Gŵyl Dewi – arddangosiad bywiog o ysbryd cymunedol, yn cynnwys plant ysgol, grwpiau lleol, a gorymdaith hudolus gyda’r ddraig goch.

Yn ystod y cyfnod hwn, gall ymwelwyr hefyd edrych ymlaen at amrywiaeth o arddangosfeydd celf a digwyddiadau crefft, gan gynnwys Ffair Grefftau wedi’i Gwneud â Llaw gan Makers Bizarre ar ddydd Sadwrn 1 Mawrth (10.30am-4.30pm, mynediad am ddim). Ar y diwrnod canlynol, dydd Sul 2 Mawrth am hanner dydd, bydd Ras Beiciau Modur Sir Benfro yn dod ag arddangosiad ysblennydd o gerbydau ddwy olwyn i’r Cwrt yn Oriel y Parc, gyda phobl leol sy’n frwd dros feiciau modur yn arddangos eu peiriannau trawiadol.
Mae rhagor o fanylion am oriau agor y safle a beth sy’n digwydd ar gael yn www.castellcaeriw.com, www.arfordirpenfro.cymru/castell-henllys a www.arfordirpenfro.cymru/oriel-y-parc. I gael gwybodaeth am ddigwyddiadau eraill ledled y Parc ac i archebu tocynnau, ewch i www.arfordirpenfro.cymru/digwyddiadau.
I’r rhai hynny sy’n awyddus i barhau â’u hantur y tu hwnt i’r digwyddiadau cyffrous hyn, mae’r Parc Cenedlaethol yn cynnig sawl ffordd o archwilio ei dirweddau anhygoel. Dewch o hyd i lwybrau hardd ar droed gyda detholiad o lwybrau trawiadol ar gael yn www.arfordirpenfro.cymru/pethau-iw-gwneud/cerdded-yn-y-parc/teithiau-gwe, neu defnyddiwch yr offer cymorth symudedd, gan gynnwys cadeiriau olwyn y traeth, sydd ar gael mewn gwahanol leoliadau ledled y Parc. Ewch i www.arfordirpenfro.cymru/pethau-iw-gwneud/mynediad-i-bawb/cadeiriau-olwyn-y-traethau i gael rhagor o wybodaeth.
Help keep news FREE for our readers
Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle