Mae Heddlu Dyfed-Powys yn brysur yn paratoi ar gyfer seremoni Gwobrau’r Heddlu 2025 ac yn awr yn gofyn am eich help! Mae’r heddlu’n gwahodd aelodau o’r cyhoedd i gyflwyno enwebiadau ar gyfer y We Care Award, gan ddathlu’r rhai sydd wedi gwneud gwahaniaeth gwirioneddol ym mywydau pobl.
Os ydych chi’n adnabod swyddog heddlu, aelod staff, neu wirfoddolwr sydd wedi mynd uwchlaw a thu hwnt i ddarparu cefnogaeth a gofal arbennig, dyma’ch cyfle chi i gydnabod ei wasanaeth drwy ei enwebu ar gyfer y Wobr Gofalu.
Pa un ai a yw’n swyddog sydd wedi darparu diweddariadau hanfodol yn ystod ymchwiliad, yn swyddog cyswllt teulu sydd wedi cefnogi’ch teulu drwy amser anodd, neu’n SCCH ymroddedig sy’n gwneud eich cymuned leol yn le mwy diogel i fwy, mae Heddlu Dyfed-Powys eisiau clywed gennych.
Mae’r wobr hefyd yn estyn i aelodau staff a gwirfoddolwyr sy’n gweithio’n ddiflino tu ôl i’r llenni, felly peidiwch ag anghofio meddwl y tu hwnt i’r ffiniau wrth gyflwyno eich enwebiad.
Dywedodd y Prif Gwnstabl Dr Richard Lewis:
“Bob dydd, mae ein swyddogion, staff a gwirfoddolwyr yn mynd yr ail filltir i wasanaethu’r cyhoedd, a hynny’n aml mewn ffyrdd sydd ddim yn cael eu gweld yn gyffredinol. Mae’r Wobr Gofalu’n ffordd wych o gydnabod tosturi ac ymrwymiad swyddogion, staff a gwirfoddolwyr yma yn Heddlu Dyfed-Powys. Os oes rhywun wedi cael effaith gadarnhaol arnoch, ni waeth pa mor fawr neu fach ydyw, byddem wrth ein bodd pe byddech chi’n ein helpu i ddathlu eu gwaith drwy gyflwyno enwebiad ar gyfer y Wobr Gofalu.”
Sut i Enwebu:
Mae cyflwyno enwebiad yn syml! Naill ai cwblhewch y ffurflen ar-lein hon: https://forms.office.com/e/Db0BHcWS9x, neu, os hoffech enwebu drwy’r post, anfonwch ef at: Gwobr Gofalu, d/o. Cyfathrebu Corfforaethol, Pencadlys Heddlu Dyfed-Powys, Llangynnwr, Caerfyrddin, SA31 2PF.
Peidiwch ag anghofio cynnwys enw’r unigolyn ry’ch chi’n ei enwebu a’ch rhesymau pam (gan roi cymaint o fanylion â phosibl), yn ogystal â’ch enw a’ch rhif cyswllt. Y dyddiad cau yw dydd Gwener 21 Mawrth 2025.
Help keep news FREE for our readers
Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle