Menter y Mynydd yn codi £2,500 ar gyfer uned gofal y fron

0
375

Trefnodd Menter y Mynydd gyngerdd gan grŵp gwerin adnabyddus, Mynediad am Ddim, a £2,500 i Uned Gofal y Fron Ysbyty Tywysog Philip.

 

Mae Menter y Mynydd yn griw sydd wedi trefnu digwyddiadau Cymraeg yn y pentref, gan gynnwys Eisteddfod, ers dros 30 mlynedd.

 

Dywedodd Helen John, aelod o Fenter y Mynydd: “Cynhaliwyd y digwyddiad yn Neuadd Mynydd y Garreg ddydd Gwener 18 Hydref 2024.

 

“Cafodd yr arian a godwyd o’r digwyddiad ei roi i’r Uned Gofal y Fron yn Ysbyty Tywysog Philip i ddiolch iddynt am eu gofal parhaus a’r driniaeth arbennig yr wyf wedi’i chael ers 2024.

 

“Diolch i deulu, ffrindiau a busnesau lleol am eu cymorth a’u rhoddion hael tuag at y noson. A diolch i Bwyllgor Neuadd Mynydd y Garreg a Chastell Howell am gyfrannu’r bwyd.”

 

Dywedodd Nicola Llewelyn, Pennaeth Elusennau Iechyd Hywel Dda, elusen swyddogol Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda: “Diolch i Fenter y Mynydd am drefnu digwyddiad mor hyfryd i godi arian ar gyfer Uned Gofal y Fron Ysbyty Tywysog Philip.

 

“Mae cefnogaeth ein cymunedau lleol yn ein galluogi i ddarparu gwasanaethau y tu hwnt i’r hyn y gall y GIG ei ddarparu yn nhair sir Hywel Dda ac rydym yn hynod ddiolchgar am bob rhodd a dderbyniwn.”

 

Mae eich rhoddion yn gwneud gwahaniaeth cadarnhaol i iechyd, lles a phrofiad cleifion, defnyddwyr gwasanaeth a staff y GIG.

 

I gael rhagor o fanylion am yr elusen a sut y gallwch chi helpu i gefnogi cleifion a staff lleol y GIG, ewch i: www.hywelddahealthcharities.org.uk


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle

LEAVE A REPLY

Please enter your comment!
Please enter your name here