Cadetiaid Gwirfoddol yr Heddlu yn Sir Gaerfyrddin yn cefnogi ymgyrch ymddygiad gwrthgymdeithasol

0
77
Cadets

Mae pobl ifanc yn eu harddegau yn Sir Gaerfyrddin wedi bod yn camu i’r adwy i gael effaith gadarnhaol drwy wirfoddoli eu hamser i helpu i fynd i’r afael ag ymddygiad gwrthgymdeithasol yn eu cymunedau.

Fel rhan o Ymgyrch Ivydene, ymgyrch sy’n ceisio mynd i’r afael ag ymddygiad gwrthgymdeithasol ar draws ardal yr heddlu, mae Cadetiaid Gwirfoddol yr Heddlu wedi bod yn dosbarthu taflenni mewn mannau problemus o ran ymddygiad gwrthgymdeithasol yn Llanelli, Caerfyrddin a Rhydaman.

Hyd yn hyn, mae bron i 2,000 o daflenni wedi’u dosbarthu, sy’n annog trigolion i gwblhau holiadur byr a rhoi adborth i helpu swyddogion i ymateb yn well i anghenion cymunedol. 

Mae’r cadetiaid wedi cyflawni bron i 100 awr o wirfoddoli rhyngddynt a bydd rhagor o daflenni’n cael eu dosbarthu yn Rhydaman dros yr wythnosau nesaf.

Mae cynllun cadetiaid yr heddlu yn rhaglen am ddim a gydnabyddir yn genedlaethol sy’n rhoi cyfle i bobl ifanc rhwng 13 a 17 oed wneud ffrindiau, datblygu sgiliau arwain, ymgysylltu â’r heddlu a chyfrannu’n gadarnhaol yn y gymuned. Maent yn cymryd rhan mewn rhaglen strwythuredig am ddwy awr bob wythnos mewn gwahanol leoliadau ar draws ardal yr heddlu ac yn helpu i wella’r berthynas rhwng y cyhoedd a’r heddlu.

Dywedodd Rhian Curtis, Swyddog Cadetiaid Gwirfoddol Heddlu Dyfed-Powys: “Yn aml iawn mae pobl ifanc yn eu harddegau yn cael eu labelu’n annheg fel rhai sy’n achosi ymddygiad gwrthgymdeithasol, ond mae ein cadetiaid yn profi y gall pobl ifanc fod yn rhan o’r ateb i’r broblem. Maent yn ymroddedig, yn frwdfrydig ac yn awyddus i wneud gwahaniaeth yn eu hardaloedd lleol.

“Rhan o nod y cadetiaid yw cefnogi polisïau plismona lleol trwy wirfoddoli ac mae Ymgyrch Ivydene yn dod o fewn y cylch gorchwyl hwn.

“Rydym yn annog trigolion i lenwi’r arolwg, a fydd nid yn unig yn rhoi adborth i’r heddlu ond hefyd yn dangos i’r cadetiaid pa mor fuddiol fu eu gwaith caled.

“Trwy gymryd camau rhagweithiol i gefnogi ymgyrch atal troseddu ac ymgysylltu â’r gymuned, mae’r cadetiaid yn dangos y gall pobl ifanc chwarae rhan hanfodol wrth feithrin cymdogaethau mwy diogel.”

Mae Heddlu Dyfed-Powys yn recriwtio’n barhaus am gadetiaid gwirfoddol newydd ar draws yr heddlu.

Am fwy o wybodaeth am sut i gymryd rhan a gwneud gwahaniaeth ewch i Cadetiaid Gwirfoddol yr Heddlu | Heddlu Dyfed-Powys


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle

LEAVE A REPLY

Please enter your comment!
Please enter your name here