Mae Aelod Plaid Cymru o’r Senedd wedi beirniadu diffyg “cydnabyddiaeth o’r argyfwng” ar ran Llywodraeth Cymru wrth symud ymlaen gyda chynlluniau i atal dirywiad a chynnig adferiad i gymunedau Cymraeg.
Yn ystod Cwestiynau’r Prif Weinidog yn y Senedd heddiw (Dydd Mawrth, 18 Mawrth), holodd Cefin Campbell, Aelod Plaid Cymru o’r Senedd dros Ganolbarth a Gorllewin Cymru, pryd bydd Llywodraeth Cymru yn ymateb i a gweithredu ar adroddiad terfynol y Comisiwn Cymunedau Cymraeg, sy’n cynnwys argymhellion polisi i gefnogi’r iaith yn ei chadarnleoedd.
Dywedodd Eluned Morgan, Prif Weinidog Cymru, y bydd ymateb ei llywodraeth yn cael ei gyhoeddi yn ystod Eisteddfod yr Urdd fis Mai, ond nid oedd hi’n gallu cadarnhau y bydd yn gweithredu ar ei argymhellion cyn diwedd tymor y Senedd hon.
Sefydlwyd y Comisiwn yn mis Tachwedd 2022, fel rhan o ymateb Llywodraeth Cymru i’r “argyfwng cymdeithasol a sosio-economaidd sydd wedi codi mewn cymunedau Cymraeg,”, ddatgelwyd gan ganlyniadau Cyfrifiad 2021.
Cyflwynwyd adroddiad terfynol y Comisiwn i’r Prif Weinidog fis Awst y llynedd yn ystod yr Eisteddfod Genedlaethol ym Mhontypridd, ond 7 mis yn ddiweddarach, mae’r Llywodraeth eto i ymateb yn ffurfiol iddo.
Yn Sir Gâr, sef sir genedigol Cefin Campbell AS, mae canran y rheiny sy’n siarad yr iaith wedi cwympo o 50.3% yn 2001, i 43.9% yn 2011, i 39.9% yn 2021.
Yn siarad ar lawr Siambr y Senedd heddiw, dywedodd Mr. Campbell:
“Mae hwn yn ddarn o waith ymchwil a myfyrio hynod werthfawr gan arbenigwyr yn y maes, sy’n gosod argymhellion cryf i’r Llywodraeth, o addysg, tai, cynllunio gwlad a thref a datblygiad economaidd er mwyn atal dirywiad pellach a chynnig adferiad i’n cymunedau Cymraeg.
“Dim ond 14 mis sydd tan etholiad nesaf y Senedd. Mae amser yn brin i weithredu ac mae’r cloc yn tician i’n cymunedau Cymraeg.
“Pryd felly bydd y Llywodraeth yn cyhoeddi ei hymateb i’r adroddiad hwn, ac a allwn ni fod yn hyderus y bydd yr argymhellion yn cael eu gweithredu cyn diwedd tymor y Senedd hon?”
Help keep news FREE for our readers
Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle