Llywodraeth Plaid Cymru yn golygu bod Cymru ar ei hennill – Rhun ap Iorwerth

0
123
Rhun ap Iorwerth AM, Leader of Plaid Cymru

Heddiw bydd Rhun ap Iorwerth AS yn defnyddio ei brif araith yng nghynhadledd ei blaid yn Llandudno i nodi sut y byddai Llywodraeth Plaid Cymru yn golygu bod Cymru ar ei hennill, gyda ailadeiladu gwasanaethau cyhoeddus a chryfhau’r economi yng Nghymru, ac yn sefyll i fyny yn erbyn Keir Starmer a Llafur y DU.

Wrth annerch cynrychiolwyr y Gynhadledd, mae disgwyl i Rhun ap Iorwerth AS ddweud pe bai’n cael ei ethol yn Brif Weinidog ar ôl Etholiadau’r Senedd fis Mai nesaf y byddai’n rhoi Prif Weinidog y Deyrnas Gyfunol “ar rybudd” ac y bydd y berthynas yn newid oherwydd bod “penllanw ein taith yn galw am hynny”.

Bydd Arweinydd Plaid Cymru yn dweud bod y berthynas bresennol rhwng Llywodraethau Llafur Cymru a’r DG yn cynrychioli “colled i Gymru” ac y byddai llywodraeth o dan ei arweiniad yn “Lywodraeth sy’n deall ein cymunedau, sy’n gofalu am ddyfodol ein cenedl, na fydd byth yn gadael i elw preifat heintio ein gwasanaeth iechyd, ac a fydd yn cymryd cyfrifoldeb am ei gweithredoedd ei hun yn hytrach na’i gwyro i San Steffan.”

I fod i siarad brynhawn Gwener, mae disgwyl i Rhun ap Iorwerth AS ddweud:

“Y gwir yw bod y sefydliad eisiau mygu, hyd yn oed rwystro, ein huchelgais. Ar un llaw, mae Keir Starmer yn gwneud bywyd yn anoddach i’r rhai mwyaf bregus – bydd ei doriadau budd-daliadau ef a Rachel Reeves – a ysbrydolwyd gan y Torïaid – yn taro rhai o’r bobl fwyaf bregus yn yr wythnosau nesaf, ac ar y llaw arall, nid yw Eluned Morgan eisiau’r grymoedd a allai wneud gwahaniaeth i fywydau pobl.

Mae’n golled i Gymru.

Mae’r SNP wedi sicrhau mwy o bwerau a bargen well i’r Alban oherwydd eu penderfyniad i sefyll yn erbyn San Steffan.

Yn y cyfamser yng Nghymru, mae gennym ni Brif Weinidog Llafur wedi’i dallu gan deyrngarwch pleidiol, yn rhy ofnus i siglo’r cwch, yn ufudd i Starmer, yn sownd yng nghanol y ffordd ac yn methu â symud ein cenedl ymlaen.”

Bydd Arweinydd Plaid Cymru yn ychwanegu sut y byddai’r berthynas rhwng Cymru a San Steffan yn dra gwahanol pe bai’n cael ei ethol yn Brif Weinidog:

“Felly, tra bod methiannau Llafur yn bwydo pleidiau adweithiol fel Reform UK, rydyn ni yma i gynnig gobaith.

Diwedd ar oruchafiaeth Llafur yng Nghymru ar ôl chwe blynedd ar hugain.

Llywodraeth sy’n deall ein cymunedau, sy’n gofalu am ddyfodol ein cenedl, na fydd byth yn gadael i elw preifat heintio ein gwasanaeth iechyd, ac a fydd yn cymryd cyfrifoldeb am ei gweithredoedd ei hun yn hytrach na gwyro i San Steffan.

Ac am fy nghyfarfod cyntaf gyda Keir Starmer fel Prif Weinidog Plaid Cymru? Bydd yn nodi dechrau newydd – dechrau’r trafodaethau ar adeiladu cenedl Gymreig newydd.

Fe wnaf bopeth o fewn fy ngallu i’w gwneud yn berthynas adeiladol, yn sicr, ond yn un peth, mae’n amlwg mai dyfodol Cymru fydd yr unig ffocws i mi – dim teyrngarwch pleidiol dall, na theyrngarwch ddall i Undeb sydd wedi torri. Ac fe fydd yna fynnu eu bod yn gweld Cymru’n wahanol mewn cymaint o ffyrdd.

Nid yn unig fel rhyw dir ffrwythlon ar gyfer llwyddiant etholiadol, neu ar gyfer cyfleon ymgyrchu dros dro a ffoto-ops.

Nid ôl-ystyriaeth yn unig – pedwerydd yn y llinell y tu ôl i Loegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon oherwydd bod eu Prif Weinidogion a’u Meiri yn gwrthod setlo am lai.

Ond cenedl y mae ei phobl yn haeddu’r parch o gael ei chlywed, o gael ei gwrando.

Ac ni fydd unrhyw osgoi mater HS2, dim osgoi pryd y dylai Ystâd y Goron fod ar yr agenda na throi i ffwrdd pan MAE’N RHAID i gyllid teg fod ar y bwrdd. Bydd RHAID i Lywodraeth y DU ymateb.

Ein gweledigaeth o Gymru – agored, cynhwysol a rhyngwladol – yw cenedl lle mae penderfyniadau sy’n effeithio ar ei phobl yn cael eu gwneud yng Nghymru er budd ei phobl.

Ein nod yn y pen draw yw diogelu Cymru at y dyfodol drwy beidio â chaniatáu i ni ein hunain ddibynnu ar fympwyon San Steffan. Rydyn ni eisiau bod yn gymdogion da ond yn gymdogion cyfartal.

Ond cyn belled â’n bod ni’n gaeth i’r undeb anghyfartal, mae’n rhaid i ni fanteisio ar y gobaith y bydd Cymru’n sefyll ar ei thraed ei hun. A dod yn bartner gwirioneddol mewn Prydain wedi’i hailgynllunio.

Fel y dywedodd Mark Drakeford, pan fydd yr Alban yn siarad, mae San Steffan yn gwrando.

A phan fydd Cymru’n siarad â Phrif Weinidog Plaid Cymru wrth y llyw, bydd angen mwy na geiriau gwag arnyn nhw i’n tawelu. Does dim amheuaeth, mae pawb ar eu hennill pan fyddwn yn cyd-drafod â meddylfryd cenedl uchelgeisiol, sy’n canolbwyntio ar ailadeiladu gwasanaethau cyhoeddus a’r economi yng Nghymru tra hefyd yn sefyll i fyny yn erbyn Keir Starmer a Llafur y DU.”


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle

LEAVE A REPLY

Please enter your comment!
Please enter your name here