Rhoddion elusennol yn ariannu sganiwr pledren gwerth dros £10,000 ar gyfer clinigau Sir Gaerfyrddin

0
265

Diolch i roddion hael, mae Elusennau Iechyd Hywel Dda – elusen swyddogol Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda – wedi prynu sganiwr pledren gwerth dros £10,000 i’w ddefnyddio mewn clinigau ledled Sir Gaerfyrddin.

Bydd y sganiwr pledren gludadwy yn galluogi staff i asesu cleifion mewn clinigau lleol yn y gymuned, gan helpu i leihau’r amser y mae gan gleifion gathetr.

Eglurodd Marisa Webber, Uwch Nyrs – Clinigau Cymunedol: “Er bod cael cathetr yn rhan bwysig o driniaeth, weithiau gall gynyddu risg unigolyn o haint. Mae rhai cleifion hefyd yn teimlo bod cael cathetr yn cael effaith negyddol ar eu ffordd o fyw.

“Mae’r sganiwr pledren newydd yn rhoi’r cyfle i staff asesu pledren claf yn y gymuned a gwneud penderfyniadau ynghylch a oes angen y cathetr o hyd. Mae hyn o fudd i’r claf gan y gall o bosibl gael gwared ar y cathetr yn gynt, ac mae’n lleihau’r pwysau ar wasanaethau eraill gan ei fod yn lleihau’r siawns o haint.”

Dywedodd Nicola Llewelyn, Pennaeth Elusennau Iechyd Hywel Dda: “Rydym eisiau dweud diolch yn fawr i bawb y mae eu rhoddion wedi gwneud y pryniant hwn yn bosibl. Mae eich haelioni wedi ein galluogi i brynu darn allweddol o offer a fydd yn gwneud gwahaniaeth i gleifion a staff ledled Sir Gaerfyrddin.

“Mae cefnogaeth ein cymunedau lleol yn ein galluogi i ddarparu gwasanaethau y tu hwnt i’r hyn y gall y GIG ei ddarparu yn nhair sir Hywel Dda ac rydym yn hynod ddiolchgar am bob rhodd a dderbyniwn.”

I gael rhagor o fanylion am yr elusen a sut y gallwch chi helpu i gefnogi cleifion a staff lleol y GIG, ewch i www.hywelddahealthcharities.org.uk


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle

LEAVE A REPLY

Please enter your comment!
Please enter your name here