Llefarydd Plaid Cymru dros yr economi yn cyhoeddi cynlluniau i helpu busnesau yng Nghymru
Byddai llywodraeth Plaid Cymru yn torri trethi ar fusnesau bach, annibynnol Cymreig.
Mae disgwyl i lefarydd economi Plaid Cymru, Luke Fletcher, amlinellu cynlluniau ei blaid yn ystod ei araith yn y Gynhadledd Wanwyn.
Yn ei araith, mae disgwyl i Mr Fletcher dynnu sylw at y brwydrau y mae busnesau annibynnol yn eu hwynebu yng Nghymru, gan ddweud bod yna “enghreifftiau di-ri ar hyd a lled Cymru lle mae potensial llawn ein busnesau domestig yn mynd heb ei gyflawni”, gyda “gormod o siopau, tafarndai, caffis a bwytai annibynnol yn gorfod cau” sydd wedi arwain at ddirywiad canol trefi.
Bydd llefarydd Plaid Cymru ar yr Economi yn dweud bod angen i Gymru newid sut mae’n trethu ein busnesau canol trefi er mwyn gwireddu potensial canol trefi a busnesau annibynnol.
Bydd yn amlinellu cynlluniau Plaid Cymru i ddefnyddio’r lluosydd ardrethi busnes i “leihau ardrethi i fusnesau annibynnol ym maes manwerthu neu letygarwch”.
Yn ôl Mr Fletcher, fe fyddai’r polisi yn niwtral o ran cost, gan y byddai Llywodraeth dan arweiniad Plaid Cymru yn 2026 yn “edrych ar sut rydyn ni’n codi cyfraddau”.
Yn ei araith i Gynhadledd Wanwyn Plaid Cymru, bydd Llefarydd Plaid Cymru ar yr Economi, Luke Fletcher AS, yn dweud,
“Mae ein strydoedd mawr yn rhoi lens ar yr heriau sy’n wynebu busnesau Cymru – heriau y mae Llafur yng Nghymru wedi methu â mynd i’r afael â nhw neu wedi gwaethygu’n sylweddol dros chwarter canrif mewn grym.
“Mae’n stori rydyn ni i gyd yn rhy gyfarwydd â hi, ynte? Ar strydoedd mawr ledled Cymru mae yna adeiladau gwag a blaenau siopau caeedig lle dylai busnesau lleol ffyniannus fod. Tafarndai, caffis a bwytai, i gyd yn brwydro gydag argyfwng economaidd– argyfwng a waethygwyd gan drethi uchel ar fusnesau a Llafur yn cael gwared ar ryddhad ardrethi busnes.
“Mae perchennog siop annibynnol ar y stryd fawr yn Aberystwyth yn talu bron i ddeg gwaith yn fwy na chadwyn fawr ar gyrion y dref, a llawer mwy nag y byddai busnes cyfatebol yn Lloegr. Ym Mhen-y-bont ar Ogwr, mae siop goffi a becws lleol yn talu’r un lefel o ardrethi annomestig â’i gystadleuwyr rhyngwladol. Yn hytrach na gallu tyfu a datblygu fel busnes, buddsoddi’n lleol yn y gadwyn gyflenwi, hyfforddiant a swyddi yn syml yw hi.
“Mae yna enghreifftiau di-ri ar hyd a lled Cymru o botensial llawn busnesau yn mynd heb ei gyflawni – gormod o’r hyn ddylai fod yn fusnesau llwyddiannus yn mynd i’r wal. A’r canlyniad? Canol trefi yn dirywio, yn hytrach nag ar i fyny.
“Rwy’n falch bod mwy a mwy o fusnesau’n edrych at Blaid Cymru am yr ateb, ac rwy’n fwy balch fyth ein bod yn gallu cynnig un.
“Os ydyn ni eisiau i ganol ein trefi ffynnu, yna mae angen i ni newid sut rydyn ni’n trethu’r busnesau ar ein strydoedd mawr, er mwyn cefnogi’n well y mathau o siopau, caffis, bariau a bwytai llwyddiannus sy’n eiddo i Gymru rydyn ni i gyd yn mynd i ganol ein trefi ar eu cyfer.
“Trwy amrywio’r lluosydd, mae gennym y grym i ostwng ardrethi ar gyfer busnesau annibynnol ym maes manwerthu, hamdden a lletygarwch. Mae mor syml â hynny mewn gwirionedd. A thrwy edrych ar sut rydym yn codi ardrethi fel bod y rhai sy’n gallu fforddio talu yn cyfrannu mwy, a byddai hynny hefyd yn gost-niwtral.
Bydd Mr Fletcher hefyd yn dweud,
“Yn ystod yr wythnosau nesaf, byddaf yn lansio’n ffurfiol cynllun economaidd newydd Plaid Cymru. Rwy’n falch o’r gwaith caled sydd wedi’i wneud i’r cynllun hwn, a’r weledigaeth newydd ac uchelgeisiol ar gyfer economi Cymru y mae’n ei chynrychioli.
“Mae’r weledigaeth honno a’r uchelgais hwnnw’n ymestyn o wely’r môr i’n strydoedd mawr, ac yn cwmpasu pob man yn y canol.
“Bydd ein cynllun yn gweld cyfalaf yn cael ei adeiladu a’i gadw yn ein cymunedau, yn lle llithro – ac mewn rhai achosion yn gorlifo – allan o Gymru. Bydd yn tyfu ac yn cynnal busnesau Cymreig, yn creu swyddi da, yn adfywio canol ein trefi, ac yn hybu safonau byw.
“Rwy’n gliriach nawr nag erioed bod angen Llywodraeth ar Gymru sydd â gweledigaeth wirioneddol a thân yn ei bol.
“Mae angen Llywodraeth Plaid Cymru ar Gymru – a’r flwyddyn nesaf bydd gennym gyfle hanesyddol i gyflawni un.”
Help keep news FREE for our readers
Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle