Mae un o brif ddarparwyr gwasanaethau teiars Cymru ar fin agor cyfleuster newydd a fydd yn rhoi bywyd newydd i hen deiars, gyda chefnogaeth Llywodraeth Cymru.
Bydd Tuf Treads, yn Sir Gaerfyrddin, yn achub hen deiars rhag cyrraedd safleoedd tirlenwi drwy eu defnyddio i gynhyrchu teiars premiwm wedi eu hail-wadnu gan ddefnyddio’r dechnoleg weithgynhyrchu ddiweddaraf. Mae ail-wadnu yn rhoi dechrau newydd i deiars addas unwaith y bydd y gwadn gwreiddiol wedi gwisgo.
Wedi’i leoli ar Safle Cyflogaeth Strategol Cross Hands, bydd y ffatri newydd yn creu 30 o swyddi newydd.
Mae’r prosiect yn cael ei gefnogi gan £400,000 gan Gronfa Dyfodol yr Economi a £220,000 o Gyllid Economi Gylchol gan Lywodraeth Cymru.
Dywedodd Rebecca Evans, Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio:
“Bydd y cyfleuster newydd hwn yn llenwi bwlch yn y farchnad ar gyfer busnes llwyddiannus Tuf Treads – gan arbed hyd at 30kg o rwber, 20kg o ddur a 60kg o CO2 o safleoedd tirlenwi bob tro y caiff teiar lori neu fws ei hail-wadnu.
“Natur arloesol a chynaliadwy y gwasanaeth hwn yw’r union fath o arfer busnes yr ydym am ei gefnogi wrth i ni feithrin economi wyrddach wedi’i seilio ar ddiwydiannau’r dyfodol.
“Bydd hefyd yn creu swyddi o ansawdd da, gan helpu i yrru ffyniant ac arfogi pobl â’r sgiliau cywir ar gyfer ein byd sy’n newid.”
Dywedodd Cyfarwyddwr Tuf Treads, Dan Rees:
“Fel cwmni balch o Gymru, mae Tuf Treads yn falch iawn o fod wedi gallu tyfu ei fusnes dros y blynyddoedd diwethaf. Rydym yn ddiolchgar am gyfraniad Llywodraeth Cymru i’n buddsoddiad o £3m yn ein ffatri newydd yn Cross Hands.
“Ni fydd prif wneuthurwyr teiars o’r radd flaenaf wedi eu hail-wadnu yng Nghymru. Fodd bynnag, i ni, nid ymwneud â datblygu’r busnes yn unig y mae hyn. Yn bwysig, mae hefyd yn golygu creu swyddi newydd, medrus o fewn y gymuned leol a helpu i dyfu economi Cymru.
“Yr un mor arwyddocaol yw’r ffordd y mae ein menter newydd yn helpu Cymru i gyflawni ei hymrwymiadau sero net drwy gynhyrchu teiars o ansawdd uchel o deiars wedi’u hailgylchu, wedi’u defnyddio a fyddai fel arall mewn safleoedd tirlenwi.
“Fel dyn lleol o Bontyberem, rwyf wedi ymrwymo i wneud popeth o fewn fy ngallu i helpu ein cymunedau yma a ledled Cymru i ffynnu.”
Help keep news FREE for our readers
Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle