Mae Elusennau Iechyd Hywel Dda wedi ymuno â chyfreithwyr ar draws Sir Gaerfyrddin, Sir Benfro a Cheredigion yn ystod Mis Gwneud Eich Ewyllys (1-31 Mai 2025) i gynnig cyfle i gefnogwyr ysgrifennu neu ddiweddaru ewyllys am bris llawer is. Mae’r cyfreithwyr yn ildio eu ffi arferol yn gyfnewid am rodd i’r elusen.
Mae’r mis ysgrifennu ewyllys yn gyfle perffaith i bobl nad oes ganddyn nhw ewyllys i ysgrifennu un, ac i’r rhai sydd ag ewyllys gyfredol i’w diweddaru. Mae’r elusen yn gofyn am isafswm rhodd o £110 ar gyfer ewyllys sengl a £195 am fwy nag un. Gall y rhai sy’n cymryd rhan sicrhau bod y bobl y maent yn eu caru yn cael eu cofio yn eu hewyllys, ac, os dymunant, eu helusen GIG leol.
Ymysg y Cyfreithwyr sy’n cymryd rhan mae Avery Naylor Family Lawyers, DPA Law, Jennings Solicitors, Powell Davies Solicitors, Price and Kelway Solicitors, a Redkite Solicitors.
Dywedodd Claire Smith, Partner yn Jennings Solicitors: “Mae Mis Gwneud Eich Ewyllys yn gyfle gwych i gynllunio ar gyfer y dyfodol. Trwy wneud ewyllys gallwch sicrhau y darperir ar gyfer eich teulu a’ch ffrindiau, yn ogystal â’r achosion sy’n bwysig i chi.
“Os oes gennych chi ewyllys yn barod, mae Mis Gwneud Eich Ewyllys yn gyfle perffaith i’w ddiweddaru a gwneud yn siŵr ei fod yn adlewyrchu unrhyw newid yn eich amgylchiadau drwy enedigaeth, profedigaeth, newid mewn statws priodasol a symud tŷ.”
Dywedodd Katie Hancock, Swyddog Codi Arian yn Elusennau Iechyd Hywel Dda: “Mae hwn yn gyfle gwych i sicrhau bod dyfodol eich teulu yn ddiogel ac y bydd eich dymuniadau’n cael eu gwireddu – a hefyd i gefnogi eich GIG lleol.
“Bydd rhodd a wneir i’r elusen yn ein helpu i ddarparu gwasanaethau a gweithgareddau y tu hwnt i’r hyn y gall y GIG ei ddarparu fel arfer. A bydd y rhai sy’n dewis gadael rhodd i Elusennau Iechyd Hywel Dda, waeth pa mor fawr neu fach, yn ddiogel gan wybod y bydd eu cymuned yn teimlo manteision eu caredigrwydd am flynyddoedd i ddod.
“Hoffem ddiolch i’r holl gyfreithwyr a gymerodd ran am eu cefnogaeth wych ac am roi o’u hamser gwerthfawr i ni.”
Nifer cyfyngedig o leoedd ysgrifennu ewyllys sydd ar gael, ac fe’u dyfernir ar sail y cyntaf i’r felin. Am ragor o wybodaeth neu i gofrestru, ewch i: https://elusennauiechydhyweldda.gig.cymru/ymgyrchoedd-a-digwyddiadau/mis-gwneud-eich-ewyllys/
Mae Elusennau Iechyd Hywel Dda yn cefnogi eich GIG lleol i wneud gwahaniaeth i gleifion, defnyddwyr gwasanaeth, teuluoedd, gofalwyr a staff yn Sir Gaerfyrddin, Ceredigion a Sir Benfro. Darllenwch fwy
Help keep news FREE for our readers
Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle