
Mae Aelod o’r Senedd sy’n cynrychioli Sir Gâr, Ceredigion a Sir Benfro wedi beirniadu penderfyniad diweddar gan Lywodraeth Cymru i is-gyfeirio statws monitro Bwrdd Iechyd Hywel Dda o lefel 4 i lefel 3, gan ddweud bod e-byst y mae’n ei dderbyn “bob wythnos” yn “gwrth-ddweud” y dyfarniad newydd.
Cafodd y pwynt ei godi gan Cefin Campbell, Aelod Plaid Cymru o’r Senedd dros Ganolbarth a Gorllewin Cymru, yn ystod Cwestiynau’r Prif Weinidog yn y Senedd heddiw (Dydd Mawrth, 25 Mawrth).
Wythnos diwethaf, fe gyhoeddodd Jeremy Miles, Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol, y bydd Bwrdd Iechyd Hywel Dda yn dad-ddwysáu o lefel 4 i lefel 3, gan gynnwys o ganlyniad i welliannau i wasanaethau iechyd meddwl.
Er gwaethaf hynny, dim ond oriau yn ddiweddarach fe gyhoeddwyd y byddai darpariaeth ar gyfer achosion iechyd meddwl di-argyfwng yn dod i ben yng ngogledd Ceredigion.
Dywedodd Mr. Campbell AS:
“Nid oes amheuaeth beth yw’r prif fater sy’n wynebu etholwyr yng Nghanolbarth a Gorllewin Cymru – mae fy mewnflwch yn llawn, bob wythnos, gyda negeseuon gan bobl ar restrau aros ar gyfer pob math o gyflyrau.
“Mae nifer fawr o’r negeseuon e-bost yma’n gwrth-ddweud y stori newyddion da y mae eich llywodraeth yn ceisio’i hadrodd. Rhain yw’r bobl sy’n gorfod wynebu methiannau’r bwrdd bob dydd.
“Wrth gwrs, dim ond microcosm yw hwn o broblem ehangach rhestrau aros annerbyniol o uchel ledled Canolbarth a Gorllewin Cymru, ac yn wir o weddill Cymru, hefyd.”
Help keep news FREE for our readers
Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle