
Mae Plaid Cymru wedi pwysleisio bod “rhaid datrys cyrhaeddiad” mewn ysgolion o flaen etholiad nesaf y Senedd yn 2026, mewn ymateb i’r hyn maen nhw’n galw’n “26 mlynedd o esgeulustod a chamreolaeth gan Lafur” o gyfundrefn addysg Cymru.
Gwnaed y pwynt yn ystod araith Cefin Campbell AS, llefarydd addysg Plaid Cymru, yn ystod cynhadledd wanwyn ei blaid yn Llandudno heddiw (Dydd Sadwrn, 22 Mawrth).
Rhoddwyd sylw hefyd i’r angen am “fodel newydd” o gyllido ar gyfer prifysgolion, cryfhau cynlluniau ar gyfer addysg cyfrwng Cymraeg a’r bil £500 miliwn o gostau cynnal a chadw ar gyfer adeiladau ysgolion.
Dangosodd adroddiad blynyddol diwethaf Estyn yr heriau sylweddol sy’n wynebu ysgolion o ran safon dysgu ac asesu, gwella lefelau llythrennedd a rhifedd, yn ogystal â recriwtio gweithlu addysg.
Mae canlyniadau rhyngwladol PISA hefyd wedi dangos dirywiad mewn cyrhaeddiad, gyda chanlyniadau Cymru o ran mathemateg, darllen a gwyddoniaeth yn is nag unrhyw wlad arall yn y Deyrnas Unedig.
Un o’r syniadau gafodd eu crybwyll yn yr araith ar gyfer datrys cyrhaeddiad ac ymddygiad oedd model Ysgol Gymunedol ‘Plus’, sef cynnwys darpariaeth iechyd meddwl a chwnsela ar leoliad yr ysgol, fyddai mewn tro yn caniatáu athrawon i ganolbwyntio ar addysg.
Yn ymhelaethu ar y syniad, dywedodd Mr. Campbell yn ei araith:
“Boed yn mynd i’r afael ag ymddygiad aflonyddgar, lefelau uchel o absenoldeb, gwella darpariaeth ADY ac iechyd meddwl, byddai darparu cymorth cofleidiol yn galluogi dysgwyr i gyrraedd eu potensial, waeth beth yw’r heriau y maent yn eu hwynebu.
“Dyna pam yr ydym am adeiladu ar fodel Ysgolion Cymunedol presennol Llywodraeth Cymru, sydd â bwriadau da, er nad yw’n mynd yn ddigon pell.
“Wrth greu model Ysgolion Cymunedol ‘Plus’, os hoffwch, rydym yn gobeithio gallu dod â staff cymorth a gwasanaethau a sefydliadau perthnasol ynghyd i wella cymorth a chanlyniadau i’n pobl ifanc.”
Help keep news FREE for our readers
Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle