Ysgrifennydd Cymru yn hyrwyddo’r ymchwil arloesol a wneir yng Nghymru
Mae’r Sector Ymchwil a Datblygu yn ffynhonnell hanfodol o gyflogaeth yng Nghymru gyda photensial enfawr ar gyfer twf economaidd
Mae Prifysgol Bangor ymhlith y prifysgolion sydd ar flaen y gad o ran Ymchwil a Datblygu yng Nghymru ac mae Parc Gwyddoniaeth Menai yn gartref i fusnesau arloesol sy’n elwa o’u harbenigedd.
Mae Ysgrifennydd Cymru, Jo Stevens, wedi dweud wrth arweinwyr ym maes Ymchwil a Datblygu bod ganddynt rôl hanfodol i’w chwarae o ran helpu i dyfu’r economi yng Nghymru pan gyfarfu â nhw ym mharc gwyddoniaeth Prifysgol Bangor M-SParc ar Ynys Môn. Dyma’r drafodaeth ddiweddaraf mewn cyfres o gyfarfodydd bwrdd crwn dan gadeiryddiaeth Ysgrifennydd Cymru fel rhan o’i hymgyrch i sicrhau twf economaidd i Gymru.
Secretary of State for Wales, Jo Stevens
Mae Ymchwil a Datblygu yn arwain at arloesi cynhyrchion, prosesau a gwasanaethau newydd ac yn cynnwys academyddion a busnesau yn cydweithio. Cafodd yr enghreifftiau a welwyd yn M-SParc eu hyrwyddo fel arfer da.
Yng Nghymru, mae’r sector yn gonglfaen arloesi, ac mae’n chwarae rhan hollbwysig yn y gwaith o lunio dyfodol diwydiant a gwella cystadleurwydd byd-eang.
Cafodd Ms Stevens ei briffio am y gwaith sy’n cael ei wneud gan wyddonwyr yn yr Ysgol Gwyddorau Eigion ym Môr Iwerddon a’r Môr Celtaidd. Mae’r ymchwil hon yn dod â llunwyr polisi, arweinwyr diwydiant a chymunedau at ei gilydd i weithio ar gadwraeth ac adfer morol, dyframaethu a physgodfeydd, ac ynni adnewyddadwy morol. Gwelodd hefyd ddeorfa lwyddiannus ar gyfer rhywogaethau wystrys brodorol, sy’n chwarae rhan hollbwysig yn rhaglenni bridio ac ymdrechion adfer y DU.
Yn M-SParc ar Ynys Môn, parc gwyddoniaeth pwrpasol cyntaf Cymru, cyfarfu Ysgrifennydd
Cymru â busnesau sy’n cydweithio ag academyddion Prifysgol Bangor i gynhyrchu ymchwil arloesol yn y sectorau gwyddoniaeth, technoleg ac arloesi.
Gwelodd waith yn cael ei wneud gan MDF Recovery Ltd sydd wedi datblygu proses arloesol i adfer ffeibr o wastraff MDF, y gellir ei ailddefnyddio ar gyfer cynhyrchion newydd fel inswleiddio thermol.
Secretary of State for Wales, Jo Stevens
Dywedodd Jo Stevens, Ysgrifennydd Gwladol Cymru:
“Bydd y Cynllun ar gyfer Newid gan Lywodraeth y DU yn rhoi hwb i’r economi ac yn rhoi mwy o arian ym mhocedi pobl.
“Mae gan Gymru sector Ymchwil a Datblygu ffyniannus, sy’n hanfodol i’n heconomi yn ogystal â chreu datblygiadau arloesol sydd â’r pŵer i wella bywydau pobl.
“Rydw i eisiau adeiladu ar y llwyddiant hwnnw a chefnogi’r sector i greu’r swyddi medrus iawn sy’n talu’n dda ac a fydd yn sbarduno twf ar hyd a lled Cymru.”
Dywedodd yr Athro Paul Spencer, Dirprwy Is-Ganghellor dros Ymchwil, Prifysgol Bangor:
“Fel sefydliad blaenllaw sy’n cael ei arwain gan ymchwil, rydym yn gweithio gyda diwydiant i fynd i’r afael â heriau cymdeithasol ac economaidd heddiw – o leihau allyriadau carbon i addasu i ddatblygiad ac effaith deallusrwydd artiffisial – ac mae gennym hanes o drosi ein hymchwil yn effaith.
“Mae Gwobr Pen-blwydd y Frenhines yn ddiweddar am ein gwaith monitro covid yn cydnabod y rhagoriaeth ymchwil ac, o ganlyniad, mae wedi arwain at bartneriaeth gyda chwmni gwyddorau bywyd byd-eang. Mae ein llwyddiant yn seiliedig ar gydweithio, ac rydym yn croesawu ymrwymiad llywodraeth y DU i gefnogi ymchwil fel sbardun i dwf economaidd.”
Dywedodd Pryderi ap Rhisiart, Rheolwr Gyfarwyddwr M-SParc:
“Mae M-SParc yn chwarae rhan allweddol yn y gwaith o hwyluso cydweithio rhwng diwydiant a’r byd academaidd. Ein pwrpas craidd yw sicrhau twf economaidd sy’n seiliedig ar ragoriaeth ymchwil Prifysgol Bangor a’n hecosystem hynod arloesol, sy’n cynnwys amrywiaeth o fusnesau ac arloeswyr arloesol ledled Cymru sydd, gyda’i gilydd, â’r uchelgais o sicrhau effaith economaidd ystyrlon yn y rhanbarth.”
Nodiadau i Olygyddion
Mynychwyr y bwrdd crwn Ymchwil a Datblygu:
Pryderi ap Rhisiart, Rheolwr Gyfarwyddwr M-SParc
Andrew Martin, Pennaeth Bwyd a Diod a Phennaeth AgriTech, Canolfan Ymchwil Gweithgynhyrchu Uwch (AMRC) Cymru
Dr Lewis Dean, Cyfarwyddwr Cynorthwyol a Phennaeth, Prifysgolion Cymru ac WIN
Bethan Davies, Rheolwr Gyfarwyddwr Dros Dro, Cwmni Da
Dafydd Gruffydd, Rheolwr Gyfarwyddwr, Menter Môn,
Dr Ramsay McFarlane, Prif Swyddog Gweithredol, Awen Oncology
Yr Athro Richard Day, Dirprwy Is-Ganghellor dros Ymchwil, Prifysgol Wrecsam
Yr Athro Paul Spencer, Dirprwy Is-Ganghellor dros Ymchwil, Prifysgol Bangor
Dr Edward Jones, Uwch-ddarlithydd Economeg, Prifysgol Bangor
Dr Louise Jones, Rheolwr Cenedlaethol Cymru, Innovate UK
Dylan J Williams, Prif Weithredwr, Cyngor Ynys Môn
Gwybodaeth am Brifysgol Bangor
Mae Prifysgol Bangor yn sefydliad dwyieithog, entrepreneuraidd, sy’n cael ei arwain gan ymchwil yng Ngogledd Cymru. Mae cynaliadwyedd yn sail i waith y Brifysgol sydd ymhlith y 30 uchaf yn y DU am effaith gymdeithasol ei hymchwil yn Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil y DU, a gyhoeddwyd yn 2022. Sefydlwyd y Brifysgol ym 1884, ac mae ganddi draddodiad hir o ragoriaeth academaidd a ffocws cryf ar ddarparu profiad sydd ymhlith y gorau yn y byd i fyfyrwyr. Wedi’i lleoli yn un o’r ardaloedd dwyieithog mwyaf bywiog yn y DU, mae cymuned ein Prifysgol yn rym er lles, gan gael effaith gadarnhaol ar fywydau pobl yng Nghymru, y DU a’r byd ehangach drwy ymchwil ac arloesi blaenllaw ac addysgu a dysgu o fri.
Gwybodaeth am M-SParc
M-SParc, sy’n rhan o Brifysgol Bangor, yw parc gwyddoniaeth pwrpasol cyntaf Cymru, sy’n meithrin arloesedd a thwf economaidd yng Ngogledd Cymru. Gan ganolbwyntio ar sectorau sy’n cynnwys ynni, yr amgylchedd, digidol a gwyddorau bywyd, mae M-SParc yn darparu mannau gwaith o ansawdd uchel, cymorth busnes, ac ecosystem ffyniannus ar gyfer cwmnïau newydd, cwmnïau sy’n tyfu, a chwmnïau sefydledig. Mae’r parc yn sbarduno cydweithio rhwng diwydiant, y byd academaidd a’r llywodraeth, gan gefnogi ymchwil arloesol a masnacheiddio. Wedi ymrwymo i gynaliadwyedd, mae M-SParc ar y trywydd iawn i gyflawni sero net erbyn 2030. Drwy ei raglenni allgymorth a mentrau digidol, mae M-SParc yn chwarae rhan allweddol yn y gwaith o adfywio’r stryd fawr a meithrin talent y dyfodol ar draws y rhanbarth.
Help keep news FREE for our readers
Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle
This website uses cookies so that we can provide you with the best user experience possible. Cookie information is stored in your browser and performs functions such as recognising you when you return to our website and helping our team to understand which sections of the website you find most interesting and useful.
Strictly Necessary Cookies
Strictly Necessary Cookie should be enabled at all times so that we can save your preferences for cookie settings.
If you disable this cookie, we will not be able to save your preferences. This means that every time you visit this website you will need to enable or disable cookies again.
We use cookies to ensure that we give you the best experience on our website. If you continue to use this site we will assume that you are happy with it.AcceptPrivacy Policy