Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda (BIP) yn atgoffa trigolion Sir Gaerfyrddin i drefnu apwyntiad prawf gwaed cyn mynychu – nid yw erioed wedi bod yn haws.
Gellir archebu apwyntiadau trwy wefan y bwrdd iechyd ar gyfer profion gwaed yn Llanelli (Canolfan Brechu Torfol Dafen), Rhydaman (Ysbyty Dyffryn Aman), a Chaerfyrddin (Ysbyty Glangwili).
Gellir hefyd archebu apwyntiadau dros y ffôn ar gyfer Llanelli neu Rydaman drwy ffonio’r llinell Cleifion Allanol a Fflebotomi ar 0300 303 9642, a Chaerfyrddin drwy ffonio’r Hyb Cyfathrebu ar 0300 303 8322.
Dywedodd Dylan Jones, Pennaeth Gwasanaethau Patholeg yn BIP Hywel Dda: “Mae’n bwysig iawn bod pobl yn trefnu apwyntiad ar gyfer prawf gwaed cyn mynychu pan fydd eu meddyg teulu neu feddyg yn gofyn iddynt gael un.
“Gellir gwneud hyn ar-lein neu dros y ffôn, pa un bynnag sydd fwyaf cyfleus, gan ganiatáu i chi ddewis amser a diwrnod sy’n gyfleus. Os bydd rhywbeth yn codi, fel y mae pethau, gallwch roi galwad i ni i aildrefnu eich apwyntiad, dim problem.
“A pheidiwch ag anghofio dod â’ch ffurflen gais am brawf gwaed gan eich meddyg teulu neu feddyg. Ni fydd ein fflebotomyddion yn gallu cymryd eich gwaed heb hyn!”
Mae nifer cyfyngedig o apwyntiadau prawf gwaed hefyd ar gael i drigolion Llanelli sy’n dibynnu ar drafnidiaeth gyhoeddus yn Ysbyty Tywysog Philip. Os nad ydych yn gallu teithio i Ganolfan Frechu Dafen ar gyfer eich prawf gwaed, ffoniwch 0300 303 9642 i drefnu prawf yn yr ysbyty.
I archebu eich prawf gwaed ar-lein, ewch i https://biphdd.gig.cymru/gofal-iechyd/gwasanaethau-a-thimau/profion-gwaed/
Help keep news FREE for our readers
Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle